Mae cyfres deledu Rownd a Rownd wedi gohirio ffilmio am wythnos ar ôl i achosion o Covid-19 gal eu cofnodi yn swyddfa’r cwmni teledu sydd yn cynhyrchu’r gyfres.

Mae golwg360 ar ddeall fod sawl achos bellach wedi eu cofnodi ymhlith staff swyddfa Rondo yng Nghibyn ger Caernarfon, a bod hyn wedi arwain at y penderfyniad i atal y gwaith ffilmio ym Mhorthaethwy.

Daw hyn wedi i Arweinydd Cyngor Môn rybuddio wythnos diwethaf fod sefyllfa’r coronafeirws yn gwaethygu yno er gwaetha’r cyfnod clo.

Mae’r gyfres boblogaidd wedi ei ffilmio ar leoliad ers 25 mlynedd, ond oherwydd y sefyllfa yn ymwneud a Covid-19 bu rhaid adeiladu setiau pwrpasol newydd yn Llangefni ac yng Nghaernarfon y llynedd.

“Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd a thrafodaethau dros y penwythnos ac yn sgil pryderon am y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid ym Môn a Gwynedd, rydym wedi penderfynu gohirio’r wythnos hon o ffilmio Rownd a Rownd,” meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo wrth golwg360.

“Er nad oes achosion positif wedi ymddangos o blith cast a chriw Rownd a Rownd eleni rydym yn teimlo bod hyn yn benderfyniad doeth yn yr hinsawdd bresennol.”

Ffilmio pennod Nadolig Rownd a Rownd dan reolau Covid-19

‘Canllawiau manwl a thrwyadl’

Bu’n rhaid gohirio ffilmio cyfres Rownd a Rownd fis Mawrth y llynedd yn sgil y coronafeirws, cyn ailddechrau fis Awst.

Eglurodd Gareth Williams fod Rondo ac S4C yn anelu i gadw at amserlen y gyfres y tro hwn er mwyn parhau gyda’r darllediadau di-dor.

“Fe allaf gadarnhau bod rhywfaint o achosion diweddar iawn ymhlith aelodau staff Rondo sy’n gweithio yn ein swyddfa yn Cibyn, Caernarfon, er mor ofalus a chydwybodol mae pawb wedi bod wrth ddilyn y canllawiau manwl a thrwyadl sydd yn eu lle gennym.”

Yn ogystal â chau swyddfeydd Rownd a Rownd mae swyddfa’r cwmni yn Cibyn wedi eu cau ac wedi ei ddiheintio dros y penwythnos.

“Rydym hefyd wedi bod mewn cyswllt gyda Iechyd Cyhoeddus Cyngor Gwynedd sydd wedi cadarnhau eu bod yn hapus gyda’n polisïau a’n gweithdrefniadau Covid-19 ni yn y gweithle. Ac wrth gwrs rydym yn dymuno gwellhad llawn a buan i’r aelodau sydd wedi profi’n bositif.”

Mae disgwyl i waith ffilmio’r gyfres ailgychwyn ar Chwefror 22.