Mae S4C wedi cwympo ar ei bai ac wedi ymddiheuro am unrhyw boen sydd wedi ei achosi yn sgil canllaw “amhriodol” oedd yn gofyn i rieni “ddofi” gwallt cyrliog neu grychlyd plentyn.

Roedd y canllaw gwreiddiol ar wefan S4C – sydd bellach wedi ei ddiweddaru – wedi ei greu i helpu rhieni a gwarchodwyr i “ddewis y llun gorau ac osgoi siom” wrth yrru llun o blant i raglen Cyw ar gyfer cyfarchiad pen-blwydd.

Mewn llythyr agored at Brif Weithredwr y sianel, Owen Evans, rhannodd Melanie Owen, Mali Ann Rees, Mirain Iwerydd, Jalisa Andrews a Bethan Wyn eu pryder am y boen y gallai’r canllaw ei achosi.

“Fel menywod sydd â gwallt cyrliog gydag amrywiaeth o weadau, diolch i’n cefndiroedd ac ethnigrwydd gwahanol, rydym yn teimlo’n gryf bod yr iaith yn y dyfyniad yma yn amhriodol ac yn awgrymu diystyrwch am well gynrychiolaeth ar y sianel,” meddai’r llythyr.

“Mae’r syniad yma bod gwallt cyrliog ‘neu grychlyd’ yn rhywbeth sydd angen cael ei ‘ddofi’ yn niweidiol ac yn cael effaith beryglus a hirbarhaol – effaith rydyn ni i gyd wedi dioddef wrth gael ein magu yng Nghymru.

“Hoffwn amlygu i chi bod y dyfyniad yma yn cryfhau’r rhethreg bod gwallt cyrliog yn llai derbyniol na gwallt syth, a ddylai ei osgoi lle mae’n bosib.”

Iaith hiliol

Mae’r llythyr yn mynd ymlaen i ofyn i S4C ystyried yr agwedd hiliol sy’n gysylltiedig.

“Mae darllen y dyfyniad yma yn atgoffa ni o sut roedden ni’n teimlo bod ’na ddim lle i blant fel ni yn y cyfryngau Cymraeg, a bod ein golwg yn annerbyniol i gynulleidfa Cymraeg.

“Wrth i ni ysgrifennu atoch heddiw fel oedolion bellach, rydyn ni’n drist bod yr agweddau yma heb newid – yn ôl y dyfyniad yma.

“Mae’n waharddol ac yn awgrymu bod yna amgylchedd gelyniaethus hiliol yn S4C. Rydyn ni’n sicr mai nid dyma yw eich bwriad ac mi fyddech chi’n awyddus i newid hyn.”

Mae’r nhw hefyd wedi galw ar S4C i ddefnyddio iaith fwy cynwysedig ar lein neu ar sgrin o hyn allan a bod dyfyniadau tebyg yn cael eu diweddaru.

Y llynedd penodwyd Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf y sianel er mwyn datblygu ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ar y sgrin a thu ôl i’r camera.

Mae S4C wedi ymddiheuro am unrhyw boen sydd wedi ei achosi ac wedi diwygio’r canllaw, a dywedodd llefarydd:

“Rydym yn derbyn fod y geiriad dan sylw yn gwbl annerbyniol, ac yn ymddiheuro am unrhyw boen a niwed sydd wedi ei achosi yn sgil hyn.

“Gallwn gadarnhau y bydd y geiriad yn cael ei newid heddiw ac y byddwn yn cysylltu gyda’r llythyrwyr i ymddiheuro ac egluro yn llawn.

“Ers rhai misoedd bellach mae Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C wedi ei phenodi sy’n gweithio ar gynllun o waith hir-dymor fydd yn edrych ar ddiweddaru unrhyw ganllawiau, ffurflenni, a pholisïau er mwyn sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosib – bydd hyn yn cynnwys prosesau adnoddau dynol mewnol S4C ac hefyd unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau sy’n cyd-fynd â rhaglenni.”