Mae Morfydd Clark wedi ennill un o brif wobrau Beirniaid Ffilmiau Llundain, y Critics’ Circle.
Enillodd y Gymraes wobr Actores Brydeinig/Gwyddelig y Flwyddyn am ei rhan yn y ffilm arswyd Saint Maud.
Enillodd y ffilm honno ddwy wobr arall hefyd, gwobr Torri Trwodd i’r cyfarwyddwr Rose Glass, a gwobr Ffilm Brydeinig neu Wyddelig y Flwyddyn.
Ganed Morfydd Clark yn Sweden, ond symudodd i Gaerdydd pan yn 2 oed ac mae’n siarad Cymraeg, Swedeg a Saesneg.
“Wrth wneud y ffilm yma doedd neb wir yn gwybod lle byddai’n mynd, mi oeddem ni’n gwybod bod y sgript yn dda a’r gobaith oedd y byddai’n cael ei wylio,” meddai Morfydd Clark wrth dderbyn ei gwobr mewn seremoni arlein.
“Mae’r ymateb gan wylwyr a beirniaid wedi bod y tu hwnt i’r hyn gallem ni fod wedi i ddychmygu.
“Fi oedd y person lwcus a gafodd chwarae’r rhan yma, diolch i’r holl dîm am gael ffydd yndda’ i.
“Mae’r wobr yma i’r diweddar Peter Parmer, aelod o daith enwog RSC i Moscow ar ddiwedd y 1950au ac, yn ddiweddarach, pennaeth drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Pan oedd yn ei wythdegau ac roeddwn i’n 15 oed gofynnodd fy mam iddo a fyddai’n rhoi gwersi Shakespeare i mi a hynny pe bai fy nhad yn rhoi hyfforddiant cyfrifiadurol iddo fe.
“Ar y pryd doedd gen i ddim syniad pa mor lwcus oeddwn i – rwy’n deall nawr, diolch i chi Peter, mae hwn i chi.”
Gwyliwch Morfydd Clark yn derbyn ei gwobr isod: