Bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei chynnal ar-lein eleni.

Roedd yn un o’r digwyddiadau diwethaf i gael eu cynnal cyn y clo mawr cyntaf y llynedd.

Ychydig ddyddiau yn unig cyn i’r wlad gael ei rhoi dan warchae fis Mawrth y llynedd, daeth prifysgolion o bob cwr o Gymru ynghyd yn neuadd fawr Aberystwyth i gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Roedd yr Eisteddfod Ryng-golegol i fod i ddychwelyd i Gaerdydd eleni am y tro cyntaf ers 2016 ond oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf, mae’r trefnwyr wedi penderfynu cynnal y digwyddiad ar-lein.

Yn ogystal â’r cystadlaethau arferol fel yr ensemble lleisiol, y deuawd doniol a’r côr cymysg, mae rhai cystadlaethau newydd wedi eu hychwanegu eleni gan gynnwys creu fideo Tik Tok, gwneud eich gwely a throi tŷ myfyrwyr yn dafarn.

Bydd cystadlaethau ychwanegol hefyd yn cael eu postio ar dudalennau cymdeithasol ‘Cwpan Her Rhyngol’ ar ddiwrnod yr Eisteddfod.

Cystadlu o bell

Er bod rhaid cystadlu o bell, yr un yw’r drefn gyda Phrifysgol Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Yn sgil y pandemig, mae Martha Owen (Llywydd Cymdeithas Gymraeg Caerdydd), Gwern Dafis (Llywydd Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe), Moc Lewis (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) ac Iwan Evans (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) wedi dod ynghyd i drefnu’r Eisteddfod unigryw eleni.

“Gan fod cyfyngiadau Covid-19 wedi rhwystro ni rhag cynnal Dawns ac Eisteddfod Rhyngol eleni, mae’r pedair Prifysgol wedi cydweithio i drefnu cystadleuaeth ar-lein,” meddai’r trefnwyr.

“Bydd gan fyfyrwyr tan ddydd Mercher, Mawrth 24, i recordio eu hunain yn gwneud y cystadlaethau, a’u danfon i gynrychiolydd o’u prifysgol.

“Bydd yr holl fideos yna yn cael eu golygu at ei gilydd, ac yn cael eu rhyddhau ar ddydd Mercher, Mawrth 31.”

Mae’r trefnwyr yn pwysleisio bod rhaid i fyfyrwyr gadw at gyfyngiadau Covid-19 wrth gystadlu a bydd unrhyw gystadleuwyr sydd yn torri’r rheolau yn cael eu diarddel.

Y gobaith yw cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol ar ei ffurf arferol yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.

Wythnos y glas dan gysgod Covid

Byw mewn swigen, dim digwyddiadau cymdeithasol a peryg na fydd modd cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol – y realiti i fyfyrwyr dan gyfyngiadau lleol
Llio Heledd Owen a Twm Ebbsworth

Y Gadair Ryng-golegol yn mynd i Llio Heledd Owen

Myfyrwraig o Abertawe yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth