Mae pedair gŵyl fawr yng Nghymru wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021.

Mae Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi cydwethio i greu gŵyl ar-lein am ddim gyda cherddoriaeth a chomedi, mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan gyfyngiadau’r coronafeirws ar benwythnos cyntaf mis nesaf (Mawrth 6-7).

Ymhlith yr artistiaid mae Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN, Carys Eleri, Anni Glas, ag Adwaith.

Bydd perfformiad ecsgliwsif gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwesteion arbennig Nadine Shah, Adrian Utley a Seb Rochford, yn ogystal â phenodau o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd cyfarwydd.

Bydd modd dilyn yr ŵyl eto am saith diwrnod ar lwyfannau’r BBC.

‘Uchafbwynt ein calendr’

“Mae Gŵyl y Llais wedi bod yn uchafbwynt ein calendr ers 2016, ac roedd gŵyl y llynedd yn argoeli i fod yn wych,” meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru.

“Yn sgil y pandemig, canslwyd ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol, ond rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â phartneriaid ardderchog i gyflwyno Gŵyl 2021 ym mis Mawrth.

“Daw â’r gorau o’r pedair gŵyl, ynghyd â’n chwilfrydedd a’n hangerdd dros fwynhau perfformiadau gwych.

“Gobeithiwn y daw’r ŵyl ag ychydig o lawenydd i’w chynulleidfa ar ddechrau’r gwanwyn.”

Dywed Neal Thompson o FOCUS Wales ei bod “yn bleser bod FOCUS Wales wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â thair o wyliau mwyaf adnabyddus Cymru, i greu Gŵyl 2021”.

“Yn dilyn blwyddyn dywyll ac anodd i bob un ohonom ni, rydyn yn edrych ymlaen yn fawr at ddod ynghyd a dathlu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru gyda rhaglen o gerddoriaeth a chomedi rhagorol,” meddai wedyn.

“Tamaid o greadigrwydd”

Mae Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae BBC Cymru Wales wrth ei bodd yn cydweithio â Gŵyl 2021,” meddai.

“Rydyn ni gyd angen tamaid o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth ar hyn o bryd, ac mae’r bartneriaeth newydd hon rhwng pedair gŵyl Gymreig wych yn argoeli i fod yn wych.”