‘Canmol dy fro a thrig ynddi’ meddai’r hen ddihareb Gymraeg, a dyna’n sicr yw maniffesto’r band Bwca.

Ar eu halbwm gyntaf – Bwca – maen nhw yn canu clodydd Ceredigion.

Ond dyn dŵad yw prif leisydd a chyfansoddwr caneuon Bwca.

Yn wreiddiol o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae Steff Rees wedi treulio’r ddegawd ddiwetha’ yn Aberystwyth.

Fe gychwynnodd Bwca fel ei broject cerddorol ei hun, cyn denu digon o aelodau i ffurfio band.