Mae arbenigwyr a gwleidyddion yn galw am flaenoriaethu, o ran brechlynnau Covid, pobl gydag anabledd dysgu sy’n byw mewn cartrefi gofal.

“Fe fyddai’n eithaf rhwydd brechu pob un person gydag anawsterau dysgu sy’n byw mewn cartref gofal neu breswyl, achos mae’r rhifau yn reit isel.”

Dyna farn Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru – elusen sy’n rhoi llais i’r rhai gydag anabledd dysgu.