Mark Drakeford yn trafod covid, annibyniaeth, ac etholiad y Senedd

Blwyddyn ers i’r achos cyntaf o covid gael ei gofnodi yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth Golwg bod yna obaith ar y gorwel.

Ym mis Chwefror y llynedd mi wnaeth yr awdurdodau gyhoeddi bod yr haint wedi cyrraedd y wlad hon, a mis yn ddiweddarach daeth i’r amlwg bod coronafeirws yn lledaenu ymhlith y gymuned.