Gallai teithwyr sy’n dweud celwydd ar ffurflenni i guddio eu bod nhw wedi bod i wlad ‘rhestr goch’ o fewn deg diwrnod cyn cyrraedd gwledydd Prydain wynebu hyd at ddeng mlynedd o garchar.
Ar ben hynny, bydd pobol sy’n gwrthod mynd i gwarantîn yn wynebu £10,000 o ddirwy, tra bydd teithwyr sy’n aros mewn gwestai cwarantîn yn Lloegr yn gorfod talu £1,750.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad newydd gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, mewn ymgais i wella cydymffurfiaeth â rheoliadau ar y ffin ac atal amrywiolion Covid-19 newydd rhag cyrraedd gwledydd Prydain.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin fod 16 o westai wedi cael cytundeb i ddarparu 4,600 o ystafelloedd ar gyfer rhaglen gwarantîn y gwesty sy’n dechrau ddydd Llun (Chwefror 15).
“Byddwn yn sicrhau mwy os oes eu hangen”
“Mae pobl sy’n diystyru’r rheolau hyn yn ein rhoi ni i gyd mewn perygl,” meddai Matt Hancock yn San Steffan.
“Bydd dyletswydd yn ôl y gyfraith i sicrhau bod teithwyr wedi cofrestru ar gyfer y trefniadau newydd hyn cyn iddyn nhw deithio, ac y byddant yn cael dirwy os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, a byddwn yn rhoi dirwyon llym ar waith i bobol sy’n gwrthod cydymffurfio.
“Mae hyn yn cynnwys cosb o £1,000 i unrhyw deithiwr rhyngwladol sy’n methu â chymryd prawf gorfodol, cosb o £2,000 i unrhyw deithiwr rhyngwladol sy’n methu â chymryd yr ail brawf gorfodol, yn ogystal ag ymestyn eu cyfnod cwarantîn i 14 diwrnod, a hysbysiad cosb benodedig o £5,000 – sy’n codi i £10,000 – ar gyfer pobol sy’n cyrraedd ac sy’n methu mynd i gwarantîn mewn gwesty dynodedig.”
Bydd gofyn i deithwyr sydd angen aros mewn gwesty cwarantîn gadw ystafell ymlaen llaw drwy system ar-lein.
Dangosodd dogfen a gafodd ei datgelu yr wythnos ddiwethaf fod y Llywodraeth yn disgwyl i ryw 1,425 o bobol y dydd ofyn am ystafell.
Byddai hyn yn golygu y gallai’r 4,600 o ystafelloedd mae’r Llywodraeth wedi eu harchebu gael eu llenwi ar ôl dim ond tri diwrnod, ond dywedodd Mr Hancock wrth ASau y byddai’r Llywodraeth “yn sicrhau mwy os oes eu hangen”.
Mae’r ffi o £1,750 i unigolyn yn cynnwys y gwesty, trosglwyddo a phrofi.
Gwestai yn “llai na brwdfrydig”
Dywedodd Paul Charles, o ymgynghoriaeth teithio The PC Agency, ei fod wedi gweld dogfen gan y Llywodraeth yn nodi mai dim ond £50 y noson y mae gwestai’n cael ei gynnig i gymryd rhan, er bod y rhai ar Bath Road ger Maes Awyr Heathrow ar hyn o bryd yn codi £77 y noson ar gyfartaledd i aelodau’r cyhoedd.
“Does dim rhyfedd fod gwestai yn llai na brwdfrydig,” meddai.
“Bydd eu costau’n fwy na’r incwm gan y Llywodraeth.”