Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyhoeddi diweddariad am Mohamud Mohammed Hassan, union fis ers iddo gael ei ganfod yn farw yn ei gartref ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd.
Yn ôl Catrin Evans, Cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad Heddlu Cymru, mae’r swyddfa annibynnol yn parhau i ddadansoddi a chasglu tystiolaeth.
Bydd gwylnos yn cael ei gynnal tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd heno (nos Fawrth, Chwefror 9).
Yn dilyn aflonyddwch mewn tŷ ar Heol Casnewydd yn y Rhath, cafodd Mohamud Hassan ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd nos Wener, Ionawr 8, a’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad y diwrnod canlynol.
Bu farw’n ddiweddarach, ar nos Sadwrn, Ionawr 9.
Mae ei deulu yn honni iddo ddioddef ymosodiad tra roedd e yn y ddalfa.
Mae Swyddfa Annibynnol wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r cyswllt rhwng yr heddlu â Mohamud Hassan cyn iddo farw, gan gynnwys faint o rym gafodd ei ddefnyddio gan y swyddogion.
Mae adroddiadau ei fod e wedi bod mewn cysylltiad â 52 o blismyn cyn ei farwolaeth.
Mae ymchwilwyr yn archwilio fideo camerâu cylch cyfyng a fideo a chamerâu cyrff ac yn casglu adroddiadau gan “nifer fawr” o swyddogion yr heddlu a staff.
Maen nhw hefyd wedi derbyn adroddiad post-mortem rhagarweiniol a chanlyniadau tocsineg cychwynnol gan y Crwner.
Dywed Catrin Evans, Cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad Heddlu Cymru, eu bod nhw’n parhau i ddadansoddi a chasglu tystiolaeth.
“Rydw i’n meddwl am deulu a ffrindiau Mr Hassan, a phawb sydd wedi eu heffeithio gan ei farwolaeth,” meddai.
“Rydym yn parhau i ddadansoddi a chasglu tystiolaeth i’n helpu i ddeall yr amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’i farwolaeth; rydym hefyd yn galw ar unrhyw aelodau o’r cyhoedd a welodd unrhyw beth perthnasol i gysylltu.
“Rydym yn gwerthfawrogi bod teulu Mr Hassan, yn ddealladwy, eisiau atebion i ystod eang o gwestiynau am ei farwolaeth.
“Byddwn yn sicrhau bod ein hymchwiliad yn annibynnol, yn drylwyr ac yn ddiduedd. Rydym yn bwriadu cynnig diweddariad i’w deulu a’i gynrychiolwyr cyfreithiol, y Crwner, a Heddlu De Cymru yn rheolaidd wrth i’n hymchwiliad fynd yn ei flaen.”