Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhybuddio bod yn rhaid i’r cyfle i ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig coronafeirws “beidio â chael ei golli”.
Daw hyn ar drothwy dadl ar y gyllideb ddrafft yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 9).
Dywed Mark Isherwood, llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, fod rhaid i Gymru gael Llywodraeth sy’n cydweithio â Llywodraeth Geidwadol Prydain, ac nid yn ei herbyn.
Ychwanega fod angen adferiad “gwell a chyflymach nag y gall Llafur ei ddarparu” yng Nghymru, wrth ganu clodydd polisi economaidd Llywodraeth Prydin yn ystod y pandemig.
“Tynnu sylw at fethiannau dros 20 mlynedd o Lafur”
“Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau dros 20 mlynedd gyda Llafur yn rheoli Cymru,” meddai Mark Isherwood.
“Roedd economi Cymru’n dirywio cyn i’r pandemig daro, gyda Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi gostwng 2.4% yng Nghymru cyn dechrau 2020.
“Ond edrychwch ar yr hyn mae’r Ceidwadwyr wedi’i wneud: i ymladd Covid-19 mae Llywodraeth Prydain wedi cefnogi Cymru drwy ddiogelu bron i 400,000 o swyddi, cefnogi mwy na 100,000 o bobol hunangyflogedig, a mwy na 50,000 o fusnesau gyda benthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth Prydain, a £5.2bn ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
“Mae angen cyllideb ar Gymru a fydd yn galluogi Cymru i adfer yn well ac yn gyflymach nag y gall Llafur ei darparu.
“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun adfer i Gymru i ddarparu mwy o swyddi, ysbytai gwell ac ysgolion o’r radd flaenaf – a bydd pob un ohonyn nhw yn hanfodol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
Y Ceidwadwyr Cymreig yn “ceisio troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli”
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi bywydau a bywoliaethau pobl yn gyntaf – gan fuddsoddi mwy na £2bn i ddiogelu busnesau a swyddi a sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ofalu am bobol sâl a bregus.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddofn ar ein bywydau i gyd – i rai cymunedau, bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i atgyweirio’r difrod a achoswyd. Rhaid i ni – a byddwn – adeiladu Cymru well a Chymru decach.
“Ar bob tro, mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi ceisio rhwystro mesurau i ddiogelu iechyd pobl ac achub bywydau.
“Eu hunig ateb yw edrych i Loegr a cheisio troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli drwy fynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda’i hanes o fethu, yn rhedeg popeth o San Steffan.”