Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu targed Llywodraeth Cymru o weld Cymru’n cyrraedd sero net o ran allyriadau erbyn 2050.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi targed fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 9) i ddileu nwyon sy’n achosi newid hinsawdd yng Nghymru.
Ond mae Janet Finch-Saunders, llefarydd yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, rybuddio y gallai’r awgrym i newid i “ddeiet carbon isel” achosi anghydfod ymysg ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn ogystal â hawl unigolyn i ddewis.
Cytunodd y dylai llywodraethau a phobol ystyried sut y gallan nhw leihau eu hôl troed carbon o ran sut maen nhw’n byw, yn teithio, ac yn gwresogi eu cartrefi a’u busnesau.
Llafur “eisau mandadu deiet”
Ond dywedodd fod y Llywodraeth “eisiau mandadu deiet” a bod gan bobol hawl i ddewis pa fwydydd maen nhw’n ei fwyta.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i bwyso am gynlluniau busnes synhwyrol sydd wedi’u targedu i helpu i feithrin swyddi a lleihau allyriadau, oherwydd mae angen arweinyddiaeth feiddgar ac arloesol yn awr yn fwy nag erioed i gynnal twf economaidd glân i’r dyfodol,” meddai.
“Fodd bynnag, mae darllen bod Llafur i bob pwrpas eisiau mandadu deiet yn cael gwared ar un o hawliau mwyaf sylfaenol pobol: dewis yr hyn maen nhw eisiau ei fwyta.
“Mae pobol eisiau arweiniad a chyngor ar ddewisiadau iach a charbon is, ond rwy’n siŵr nad oes neb eisiau deiet wedi’i noddi gan y llywodraeth – yn enwedig ein holl ffermwyr sydd eisoes yn gwneud llawer i newid i ffurfiau glannach a gwyrddach o gynhyrchu bwyd.
“Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i farchnadoedd agor i fasnach Cymru a’r Deyrnas Unedig ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Bydd ein huchelgais cyffredin i gyflawni sero net carbon yn rhan o adferiad Covid-19 y genedl, ac yn cynnig cyfle heb ei ail i ysgogi creu swyddi coler werdd hirdymor a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau allyriadau carbon yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.”