Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed cyfreithiol i ddileu nwyon sy’n achosi newid hinsawdd, gan fynnu nad yw parhau gyda’n ffordd o fyw presennol “yn opsiwn”.

Mae’r Llywodraeth am weld Cymru’n cyrraedd sero net o ran allyriadau erbyn 2050.

Dywedodd fod patrymau tywydd eithafol eisoes yn “achosi hafog” ac mai gweithredu nawr yw’r “peth iawn i’w wneud i’n plant a’n hwyrion”.

Ond mae’r Llywodraeth yn cydnabod na fydd hyn yn dasg hawdd, gyda chyrraedd y targed yn golygu newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae pobol yn byw.

Bydd y rhain yn cynnwys cael boeleri carbon isel mewn tai a symud oddi wrth danwyddau ffosil mewn diwydiannau megis dur.

Mae hefyd yn obaith ganddyn nhw gynhyrchu 100% o’r trydan yng Nghymru o ynni glân.

Targedau

Mae’r Pwyllgor Annibynnol ar y Newid yn yr Hinsawdd (CCC) wedi rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni nodau presennol, llai caeth i leihau allyriadau.

Erbyn 2018, roedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 31% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o gymharu â lefelau 1990.

Bydd targedau cyfreithiol newydd yn gorfodi gostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040, gyda Chymru’n cyrraedd ‘sero net’ erbyn 2050.

Dywed y pwyllgor fod yr hyn fydd yn cael ei gyflawni yn y degawd nesaf yn cael dylanwad mawr wrth benderfynu a fydd y targedau’n cael eu cyrraedd.

Wrth drafod y targed, dywed Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, fod y newidiadau sydd eu hangen yn mynd i “effeithio ar bob un ohonom”.

“Er hynny, y cymunedau mwyaf bregus fydd yn cael eu taro caletaf,” meddai.

“Trwy gydol pandemig y coronafeirws rydym wedi dangos ymdrech Tîm Cymru sydd wedi achub bywydau ac wedi diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac rwy’n galw ar bawb i ddefnyddio’r un ysbryd i adeiladu’r Gymru rydyn ni ei heisiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”