Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Sir Powys drafod dyfodol pedair o ysgolion gwledig y sir yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 9).

Yr ysgolion dan ystyriaeth yw Ysgol Eglwys Castell Caereinion ger Y Trallwng, Ysgol Gynradd Yr Ystog yn Nhrefaldwyn, Ysgol Eglwys Llanbedr yng Nghrughywel ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydithon yn Llandrindod.

Mae nifer y plant yn yr ysgolion hynny’n amrywio o 23 i 40, ond mae rhieni’n poeni am y cynlluniau, gan ddweud bod yr ysgolion yn llwyddo er eu bod nhw’n fach, yn ôl adroddiadau.

Gallai proses ymgynghori ddechrau cyn diwedd y mis pe bai’r Cyngor Sir yn penderfynu bwrw ymlaen â’r cynlluniau.

Daw’r trafodaethau wrth i’r Cyngor Sir ystyried cynlluniau i ailstrwythuro ysgolion cynradd y sir dros y degawd nesaf.

Ymateb y Cyngor Sir

“Dydyn ni ddim wedi gwneud y cynnig hwn heb ystyried yr effaith yn ddwys,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, sy’n gyfrifol am Addysg yn y Cyngor Sir.

“Rydym yn ceisio sicrhau bod budd plant y bedair ysgol yn rhan ganolog o’r trafodaethau a phenderfyniadau.

“Pe bai’r ysgolion hyn yn cau, yna byddai’r dysgwyr yn mynychu ysgolion a fyddai mewn gwell sefyllfa i fodloni gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a darparu ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol.”