Fe fydd Senedd yr Unol Daleithiau yn dechrau’r broses ffurfiol o uchelgyhuddo’r cyn-Arlywydd Donald Trump heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 9).

Mae wedi’i gyhuddo o annog trais yn sgil canlyniad yr etholiad arlywyddol yn ddiweddar, yn dilyn buddugoliaeth i’r Democrat Joe Biden.

Mae cyfreithwyr y cyn-Arlywydd Gweriniaethol yn mynnu nad yw’n euog o annog y trais a ddigwyddodd ger a thu mewn i adeilad y Capitol yn Washington.

Ond mae erlynwyr yn mynnu bod rhaid dwyn achos yn ei erbyn yn sgil y “drosedd gyfreithiol fwyaf difrifol” er ei fod e bellach wedi gadael ei swydd, gan y byddai’n ei atal rhag dal swydd gyhoeddus eto.

Mae’n wynebu un cyhuddiad o annog trais yn dilyn ymosodiad syfrdanol ar y Capitol ar Ionawr 6, wrth iddo annog torf i “ymladd fel y diawl” drosto.

Fe wnaeth protestwyr ymateb drwy hyrddio’u ffordd i mewn i’r Capitol, ac fe fu farw pump o bobol.

Does dim disgwyl i dystion siarad yn yr achos, yn rhannol oherwydd y bydd fideos treisgar yn cael eu dangos fel rhan o’r gwrandawiad.

Bydd yr achos yn cael ei gynnal gan gadw at gyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae Donald Trump wedi gwrthod rhoi tystiolaeth.

Fe yw’r arlywydd cyntaf i wynebu cyhuddiadau ar ôl gadael y swydd, a’r cyntaf i wynebu dau wrandawiad uchelgyhuddo.

Er bod disgwyl iddo ennill yr achos, roedd y Democratiaid yn benderfynol o ddwyn achos er mwyn gosod cynsail ar gyfer achosion tebyg posib yn y dyfodol.