Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y bydd yn rhaid i bob teithiwr sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig gymryd dau brawf coronafeirws – ac fe allai Llywodraeth Cymru gyflwyno camau tebyg.

Daw hyn mewn ymdrech newydd i atal amrywiolion rhag dod i mewn i’r wlad o dan reolau newydd sy’n cael eu cyhoeddi’r wythnos hon.

Dywed yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) y bydd hyn yn darparu “lefel bellach o ddiogelwch” gan alluogi’r awdurdodau i olrhain achosion newydd yn fwy effeithiol.

Mae disgwyl y bydd pobol sy’n ynysu gartref yn cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gael prawf ar ôl dau ddiwrnod, ac eto ar ôl wyth diwrnod i’w cyfnod cwarantîn o ddeg diwrnod.

“Drwy gydol y pandemig, mae’r Llywodraeth wedi rhoi mesurau ar waith, wedi’u llywio gan gyngor gwyddonwyr, sydd wedi arwain at rai o’r cyfundrefnau ffiniau caletaf yn y byd,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Bydd profi pawb sy’n cyrraedd tra byddan nhw’n ynysu yn darparu lefel bellach o ddiogelwch ac yn ein galluogi i olrhain yn well unrhyw achosion newydd fydd yn dod i mewn i’r wlad, a rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ni ganfod amrywiolion newydd.”

Cyhoeddiad swyddogol

Gallai cyhoeddiad swyddogol ddod mor gynnar â hediw (dydd Mawrth, Chwefror 9) pan fydd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau Seneddol mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Daw hyn wrth i swyddogion geisio sicrhau’r cyhoedd y dylai brechlynnau ddarparu amddiffyniad effeithiol rhag salwch o ganlyniad i amrywiolyn De Affrica newydd.

Mae De Affrica wedi atal y defnydd o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca ar ôl i dreialon rhagarweiniol awgrymu ei fod yn cynnig lefel is o ddiogelwch rhag haint a salwch ysgafn o’r amrywiolyn.

Fodd bynnag, dywed dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yn wahanol i’r amrywiolyn a ddaeth i’r amlwg y llynedd yng Nghaint, nad oedd unrhyw dystiolaeth fod ganddo “fantais drosglwyddadwy” ac felly ei bod yn annhebygol o fod yn brif straen yn y Deyrnas Unedig yn ystod y misoedd nesaf.

Mae gweinidogion yn parhau i fod yn hyderus y byddan nhw’n cyrraedd eu targed o gynnig brechiad i 15m o bobol ledled y Deyrnas Unedig sydd yn y pedwar grŵp mwyaf agored i niwed – gan gynnwys pobol dros 70 oed – erbyn dydd Llun (Chwefror 15).

Dywed Matt Hancock fod 12.2m o bobol bellach wedi cael y pigiad, gan gynnwys 91% o’r holl bobol dros 80 oed yn ogystal â 93% o breswylwyr cartrefi gofal cymwys.

Llywodraeth Cymru’n ystyried cyflwyno mesurau pellach

Gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno camau pellach ar ôl i 13 achos o amrywiolyn De Affrica gael eu nodi yn y wlad.

Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod yr hanes teithio yn ansicr ar gyfer tri o’r achosion hynny ond fod hyn bellach wedi gostwng i ddau.

“Rydym yn dal i ymchwilio i’r achosion hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw gyda’r unigolion a’u cysylltiadau,” meddai.

“Wrth i ni weithio drwy hynny, rydym yn ceisio sicrhau bod y bobol hynny’n cael eu profi a’u cefnogi i ynysu a gwneud y peth iawn.

“Yr amrywiolyn amlycaf o hyd yw’r amrywiolyn Caint ac rydym yn gwneud cynnydd i leihau achosion er gwaethaf y ffaith ei fod yn dominyddu ledled Cymru.

“Nid yw hynny’n golygu ein bod yn llaesu dwylo ynglŷn ag amrywiolyn De Affrica, rydym yn dal i edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy’n digwydd ac mae gennym fesurau pellach y gall fod angen i ni eu cymryd ac os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn gwbl agored amdanyn nhw.”