Mae Llywodraeth Cymru’n ceisio cyflwyno deddf a fyddai’n galluogi etholiadau Senedd Cymru i gael eu cynnal dros sawl diwrnod pe bai’n rhaid gohirio’r bleidlais.
Does dim cynlluniau i ohirio’r etholiad hyd yma, ond mae Aelodau o’r Senedd yn trafod deddf newydd a fyddai’n caniatáu’r bleidlais i gael ei gohirio am hyd at chwe mis.
Byddai angen i ddwy ran o dair, neu 40 o’r 60 o Aelodau o’r Senedd, gefnogi’r ddeddf er mwyn caniatáu gohirio’r etholiad am chwe mis.
Gallai Elin Jones, y Llywydd, ohirio’r etholiad hyd at fis, ond byddai’r ddeddf newydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ohirio’r etholiad hyd at chwe mis.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi y gallai etholiad Holyrood gael ei ohirio.
Ond bydd etholiadau lleol Lloegr, sydd hefyd yn cael eu cynnal ym mis Mai, yn digwydd eleni, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai’r etholiad gael ei gynnal ar Fai 6, ond ei bod hi’n briodol pasio’r ddeddf newydd rhag ofn nad yw’n ddiogel i gynnal y bleidlais.
Ym mis Ionawr, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford ei fod yn “parhau i fod yn ymrwymedig i etholiad Senedd ym mis Mai” ond ei bod hi’n “gyfrifol” i gyflwyno deddf “a fyddai’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd”.
Os nad yw’n bosib cynnal yr etholiad, yna mae’r Llywodraeth eisiau newid y ddeddf er mwyn cyflwyno’r posibilrwydd o gynnal y bleidlais dros sawl diwrnod.
Mae disgwyl i Aelodau o’r Senedd bleidleisio ar y cynnig heno (nos Fawrth, Chwefror 9).
Cyhuddo’r Llywodraeth o “ddileu’r hawl i bleidleisio”
Mewn llythyr at Mark Drakeford gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders AoS, cafodd y Llywodraeth eu cyhuddo, mewn perthynas â’r cyhoedd, o “ddileu’r hawl i bleidleisio”.
“Hoffwn ddeall beth fyddai’n rhaid i’r amodau fod i Lywodraeth Cymru ddileu’r hawl i bleidleisio,” meddai.
“O ystyried y ffaith bod Unol Daleithiau America wedi llwyddo i gynnal eu hetholiadau, rwy’n ei chael yn anodd deall sut y gellir cyfiawnhau pam na allwn ninnau.
“Pam mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gohirio’r etholiad yn hytrach nag edrych ar opsiynau i bleidleisio, hynny yw mwy o bleidlais bost, pleidleisio ar-lein ac ati. Byddai hyn yn fwy synhwyrol.
“Ni ellir ac ni ddylid caniatáu i’r prif weinidog ddal grym fel hyn.”
“Rhaid i ni baratoi ar gyfer amryw wahanol o sefyllfaoedd”
“I ddechrau, hoffwn bwysleisio mai ein bwriad yw y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal, fel y cynlluniwyd, ar 6 Mai 2021,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Fodd bynnag, fel llywodraeth gyfrifol, mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer amryw o wahanol sefyllfaoedd rhag ofn y bydd y pandemig yn achosi bygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd ac na fydd yn ddiogel i gynnal yr etholiad bryd hynny.
“Nid yw’r hawl i bleidleisio’n cael ei dileu ac nid penderfyniad Lywodraeth Cymru fyddai gohirio.
“Byddai’n rhaid i ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd gytuno ar unrhyw benderfyniad i geisio cael gohirio –byddai gan bob Aelod o’r Senedd ran mewn unrhyw benderfyniad ynglŷn â gohirio felly.
“Y Llywydd fyddai’n gyfrifol am y penderfyniad terfynol.
“Mae pŵer cyfreithiol i ohirio etholiad y Senedd am hyd at fis eisoes yn bodoli, yn ôl disgresiwn y Llywydd ac yn amodol ar Broclamasiwn Brenhinol.”