Bydd etholiadau lleol yn cael eu cynnal yn Lloegr eleni -ond bydd angen i bob etholwr unigol fynd â phensel ei hun i’r bwth er mwyn bwrw croes ar y papur pleidleisio.
Hefyd, oherwydd y corona, bydd angen i’r etholwyr wisgo mygydau yn y canolfannau pleidleisio.
Mae disgwyl i’r etholiadau gael eu cynnal ym mis Mai, ond mae’n bosibl y bydd etholiadau Senedd Cymru a’r Alban, sydd hefyd yn cael eu cynnal ym mis Mai fel arfer, yn cael eu gohirio am chwe mis.
Cadarnhaodd Swyddfa’r Cabinet y byddai polau “Covid-ddiogel” yn cael eu cynnal, er gwaethaf ofnau y byddai’r pandemig yn arwain at eu gohirio eto.
O dan reolau newydd, bydd yn rhaid i bleidleiswyr wisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i orsafoedd pleidleisio a gofynnir iddynt ddod â’u beiro neu bensil eu hunain i nodi eu pleidlais.
A bydd rheolau pleidleisio yn cael eu newid fel y gall pobol sy’n hunan-ynysu ofyn am bleidlais drwy ddirprwy hyd at bump y pnawn ar y diwrnod pleidleisio.
Dywedodd Swyddfa’r Cabinet bod disgwyl i bob un o’r naw grŵp flaenoriaeth – sy’n cwmpasu’r rhai 50 oed a throsodd – fod wedi derbyn brechlynnau coronafeirws erbyn mis Mai, sy’n golygu y gall y Llywodraeth ymrwymo “yn hyderus” i gynnal etholiadau lleol.
Hwn fydd y prawf etholiadol mawr cyntaf i Syr Keir Starmer ers iddo ddod yn arweinydd y blaid Lafur ym mis Ebrill 2020, ac i’r Prif Weinidog Boris Johnson ers ei fuddugoliaeth etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019.
“Cynllun manwl”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Chloe Smith: “Rydym yn cyhoeddi cynllun manwl i gynnal etholiadau mis Mai mewn ffordd ddiogel.
“Ni ddylid canslo democratiaeth oherwydd Covid. Yn fwy nag erioed, mae angen galluogi pobol leol i ddweud eu dweud wrth inni adeiladu’n ôl yn well, ar faterion sy’n amrywio o ffyrdd lleol, i strydoedd mwy diogel, i lefel y dreth gyngor.
“Wrth i’r Llywodraeth gyflwyno’r brechlyn i’r rhai mwyaf agored i niwed, byddwn yn gallu gadael y cyfyngiadau symud ac agor ein gwlad yn ddiogel eto.
“Byddwn yn gweithio gyda phleidiau gwleidyddol i sicrhau bod yr etholiadau pwysig hyn yn rhydd ac yn deg.”