Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi datgelu ei chynlluniau ar gyfer sicrhau bod etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal mewn ffordd ddiogel.
Brynhawn ddoe mi gyflwynodd y Llywodraeth gynnig yn gofyn am yr hawl i drin ‘Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)’ fel deddfwriaeth frys.
Rhoddodd Aelodau o’r Senedd eu cydsyniad i hynny, a bellach mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynnwys y Bil hwnnw.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i etholiad y Senedd gael ei gynnal ar Fai 6, ond mae yna bryderon na fydd modd ei gynnal mewn ffordd ddiogel yng nghanol yr argyfwng.
Pe bai’r mesur yn cael ei basio byddai’n galluogi gohirio’r etholiad am hyd at chwe mis (pan fydd cysgod Covid, o bosib, wedi pylu rhywfaint).
Fydd y Bil ddim yn destun trafodaeth yn ystod Cyfarfod Llawn heddiw, ond yn sgil sesiwn ddoe mae AoSau bellach wedi cytuno ar amserlen er mwyn craffu ar y Bil.
Y mesur
Mae’r Bil yn galluogi:
- Pleidleiswyr i ofyn bod person arall yn pleidleisio ar eu rhan (emergency proxy vote) os nad yw’r dirprwy presennol (current proxy voter) ar gael – e.e gan fod ganddyn nhw Covid.
- Y Senedd barhau i eistedd am hyd at saith niwrnod calendr cyn yr etholiad (yn hytrach na chael ei diddymu 21 o ddiwrnodau gwaith cyn yr etholiad fel sy’n digwydd fel arfer).
- Bydd hyn yn caniatáu i weinidogion ac AoSau barhau i ymdrin â deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â covid ac yn caniatáu i AoSau i bleidleisio tros ohiriad munud olaf i’r etholiad.
- Etholiad y Senedd gael ei ohirio am hyd at 6 mis (dim hwyrach na 5 Tachwedd 2021), os oes angen am resymau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
- Y Llywydd fyddai’n cynnig gohirio a phennu dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad a byddai angen i ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd gytuno i wneud hynny.
Fydd y Bil ddim yn dylanwadu ar etholiadau’r Senedd wedi pleidlais eleni (h.y bydd yr ymestyniad gohirio chwe mis ddim yn bosib ar gyfer etholaidau’r dyfodol).
Mae’r mesur hefyd yn golygu bod modd gohirio isetholiadau llywodraeth leol y tu hwnt i Mai 6 eleni os oes angen (dim hwyrach na 5 Tachwedd 2021).
Dim gohiriad fyddai’n ddelfrydol
Wrth gyflwyno’r Bil mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi pwysleisio bod y Llywodraeth yn hynod awyddus i gynnal yr etholiad ar Fai 6 os yw hynny’n bosib.
“Sicrhau y gellir parhau â’r etholiad a’i gynnal mewn modd sydd mor ddiogel â phosibl yw ein blaenoriaeth,” meddai Julie James.
“Bydd y Bil rydyn ni’n ei gyflwyno heddiw yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio mewn etholiad, ond eu bod yn gallu gwneud hynny yn ddiogel hefyd.
“Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ymdrechion arbennig y staff sy’n cynnal ein hetholiad i sicrhau bod modd gwneud hynny yn ddiogel.
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymroddedig i gynnal etholiad y Senedd ar 6 Mai, fel y cynlluniwyd.”
Teimladau cymysg
Dyw pob un blaid yn y Senedd ddim yn gefnogol i’r syniad o ohirio.
Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cefnogi’r syniad o ohirio os oes rhaid, ond mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Diddymu’r Cynulliad ar y llaw arall yn wrthwynebus.
Mae Julie James eisoes wedi cydnabod y bydd etholiad eleni yn “heriol iawn” i’w gynnal.