Daeth cyhoeddiad y prynhawn ’ma, Ionawr 27, bod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi’i chanslo eto eleni oherwydd y coronafeirws.

Roedd disgwyl i sioe amaethyddol fwyaf Ewrop gael ei chynnal yn Llanelwedd fis Gorffennaf eleni, ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws yn golygu nad oedd dewis ond canslo.

Daw hyn wedi i’r Sioe orfod cael ei chanslo’r llynedd oherwydd y pandemig.

“Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu Map Ffordd ar gyfer ailagor digwyddiadau yn ddiogel,” meddai Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol, Steve Hughson.

“Mae ein digwyddiadau yn ganolog i’r economi wledig ac i’r ffordd o fyw wledig ac yn golygu cymaint i aelodau, arddangoswyr, masnachwyr ac ymwelwyr ac rydym yn deall yn llwyr y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn darparu ein digwyddiadau cyn gynted ag y mae’n ddiogel gwneud hynny.

“Er gwaethaf yr heriau hyn mae’r Gymdeithas wedi camu ymlaen i gefnogi ein cymuned leol trwy ddarparu cyfleusterau yn rhad ac am ddim ar gyfer Canolfan Profi Covid a chanolfan brechu torfol.”

‘Digwyddiadau llai posib’

Er bod Sioe Frenhinol wedi’i gohirio, mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i geisio cynnal digwyddiadau llai sy’n cydymffurfio â rheolau Covid yn ystod yr haf a chynnal “chwip o Ffair Aeaf”.

“Byddwn yn archwilio’r posibiliadau o ran digwyddiadau llai, amgen yr haf hwn a gyda Bwrdd y Cyfarwyddwyr a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu ein Cymdeithas ar gyfer y genhedlaeth nesaf,” meddai Cadeirydd y Cyngor John T Davies.

“Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein haelodau a rhanddeiliaid eraill yn fawr. Ni fu cefnogaeth barhaus pawb sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas erioed yn bwysicach.”

“Mae o’n siomedig iawn ond yn hollol ddealladwy”

Ymateb ffermwyr Cymru i ganslo Sioe Frenhinol Llanelwedd am yr ail flwyddyn yn olynol

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022

A bydd rhaid lleihau nifer y staff i “hanner ei faint” meddai’r Prif Weithredwr.