Dros y penwythnos cafodd 1,200 o bobol ym Mhen Llŷn eu brechu rhag Covid.

Fe ddaru un meddyg teulu o Nefyn ysbrydoli byddin o bobol oedd yn cynnwys gweithwyr iechyd, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned “er mwyn arwain y ffordd i weddill Cymru” meddai wrth Golwg.