Roedd un Prifardd yn benderfynol o godi calon ei gyd-Gymry fore Mawrth, ar ôl clywed y newyddion bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd y pandemig.

Y bwriad yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.