Mae ffermwyr Cymru wedi bod yn rhannu eu siom o golli allan ar un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr amaethyddol.
Roedd disgwyl i’r Sioe Amaethyddol fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal fis Gorffennaf ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws wedi golygu nad oedd dewis ond canslo.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Sioe orfod cael ei gohirio oherwydd y pandemig.
“Siomedig iawn ond yn hollol ddealladwy”
“Mae o’n siomedig iawn ond yn hollol ddealladwy,” meddai Elliw Dafydd o fferm Gwarffynnon yn Llanbedr Pont Steffan, wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw.
Ei phyder pennaf, meddai, yw sicrhau bod y Sioe yn derbyn y gefnogaeth ariannol mae’n ei heuddu, er mwyn sicrhau ei chynhaliaeth ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r Sioe Frenhinol wedi gwneud gymaint i gefnogi sioeau bach, cymdeithasau a thraddodiadau cefn gwlad Cymru,” meddai.
“Mae’n siop ffenest i amaethyddiaeth dros Ewrop ac mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod hynny’n cael chwarae teg a sicrhau bod modd cario ‘mlaen i’r dyfodol.
“Mae angen gwneud yn siŵr bod y digwyddiadau ’na yn mynd i fod i bobl gael mwynhau dros y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd bod rhaid derbyn y penderfyniad yn y gobaith cawn fwynhau’r Sioe fwy nag erioed flwyddyn nesaf.
“Mae o’n fisoedd o waith caled”
Daw’r newyddion a siom fawr hefyd i Llinos Hughes a’i mab Ifan, sy’n ffermio yn Bryn Eithiog, Pontllyfni.
“Mae o’n dipyn o golled i gefn gwlad am ei fod o’n rhywle mae pawb yn heidio i yn flynyddol,” meddai.
“Mae hi’n rhan bwysig o’r flwyddyn i ni ac yr unig wyliau ’da ni’n cymryd. Mae o’n le i weld ffrindiau ac yn le ‘da ni ni wedi gwneud nifer o ffrindiau dros y blynyddoedd.”
Er hynny, eglurai bod y Sioe Frenhinol yn fwy nag cyfle i gymdeithasu yn unig ac yn hytrach mae’n galluogi i ffermwyr ar draws y wlad i ddangos eu cynnyrch, rwydweithio, godi eu proffil a chynyddu eu gweithiant.
“Mae hi’n gallu bod yn wythnos galed,” meddai, “mae o’n fisoedd o waith caled i rywun fel Ifan, sydd wedi tynnu ei ddefaid dangos i mewn yn barod.
“Mae o’n mynd i fod yn sobor eto i feddwl mai hon ydi’r ail flwyddyn mae’n rhaid gohirio,” meddai.
“Dwi jest gobeithio y daw hi’n ôl.”
“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb”
Doedd y newyddion ddim yn syndod i Gadeirydd Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, Alwyn Lloyd Ellis, sydd eisoes wedi cymryd y penderfyniad i ganslo’r eu sioe leol eleni.
“Dydw i ddim yn synnu bod y Sioe yn Llanelwedd wedi penderfynu mynd lawr y ffordd yma,” meddai.
“Wrth gwrs, maen nhw dipyn mwy na ni ond mae’r un egwyddor yn wir – mae pobl yn cymysgu’r un fath.
“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb – dydyn ni ddim eisiau cymryd y risg – y rhai sy’n cynnal y sioe a’r rhai fyddai’n ymweld â’r Sioe.
Eglurodd bod y pwyllgor Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen wedi bwriadu disgwyl i glywed cyhoeddiad gan y Sioe Frenhinol cyn gwneud penderfyniad eu hunain ond oherwydd yr ansicrwydd a’u dymuniad i gynnal “sioe lawn”, gwnaed y penderfyniad yn fuan.
“Does dim pwynt cynnal sioe sydd dim am dalu ei ffordd chwaith,” meddai.
Ychwanegodd bod “pawb yn yr un cwch” a’i fod rhagweld y bydd mwy o sioeau’n cyhoeddi newyddion tebyg dros yr wythnosau nesaf.