Parhau mae’r pwysau ar Lywodraeth Cymru wedi iddi ddod i’r amlwg bod llai o bobol hŷn wedi cael eu brechu na’r disgwyl.

Yn siarad gerbron y Senedd ddydd Mawrth yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn “hyderus” y byddai 70% o bobol dros 80 wedi’u brechu erbyn diwedd yr wythnos.

Fe wnaeth Vaughan Gething hefyd ddweud ei fod yn rhagweld y byddai 70% o staff a phreswylwyr cartrefi gofal wedi derbyn dos erbyn dydd Sul diwethaf.

Yn siarad brynhawn ddoe, fe wnaeth y gweinidog ddatgelu bod 67% o breswylwyr cartrefi gofal wedi’u brechu, a 74% o staff cartrefi gofal.

“Dw i ddim yn credu y gwnaethom ei chyrraedd hi,” meddai am y nod ar gyfer pobol dros 80 oed. Dywedodd bod tywydd garw’r penwythnos yn “ffactor allweddol” yn hyn o beth.

Mae’r ffigurau wedi ennyn cryn feirniadaeth, ac mae sawl ffigwr o’r Llywodraeth wedi wynebu cwestiynau caled am y mater trwy gydol y dydd heddiw (27 Ionawr).

“Ar y trywydd iawn”

Roedd Vaughan Gething a’i Ddirprwy Weinidog, Julie Morgan, gerbron Pwyllgor Iechyd y Senedd bore ’ma, a chodwyd y mater gan Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd yr AoS Plaid Cymru ei fod yn “siomedig” â ffigur “isel iawn” y 67% (o breswylwyr cartrefi gofal), a holodd am esboniad o’r sefyllfa.

Nododd Julie Morgan ei bod yn beth “da iawn” bod y Llywodraeth wedi cyrraedd y lefel hwnnw. Yna mi rannodd Vaughan Gething ei farn yntau am y sefyllfa.

“Mae’n werth nodi … mai dyna oedd y ffigur ar y lleiaf,” meddai. “Ac mi fyddwch yn gwybod … bod yna oedi rhwng y brechu a chofnodi’r data. Felly 67% ar y lleiaf.

“Gyda’r ffigurau diweddaraf dw i’n hyderus y gwelwn gam arall ymlaen … Mae yna dempo a theimlad o frys wrth amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal, ac yn allweddol, y staff sy’n eu diogelu hefyd.

“Felly dw i’n credu ein bod ni ar drywydd da ac yn mynd i wneud yn dda iawn. Rydym yn disgwyl y bydd cymal cartrefi gofal y rhaglen frechu wedi’i gwblhau erbyn diwedd Ionawr fwy neu lai.

“Efallai bydd ambell gartref gofal sydd ar ôl … Os oes achosion mewn cartref mae’n bosib na fyddwn yn medru anfon tîm [brechu] yno.

“Ond rydym yn credu y byddwn wedi cwblhau cymal cartrefi gofal y rhaglen frechu erbyn diwedd y mis. Ac rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny.”

‘Doedd hynny erioed yn darged’

Dr Frank Atheron, Prif Swyddog Meddygol Cymru, oedd yn cynnal cynhadledd wasg Llywodraeth Cymru brynhawn heddiw, ac roedd y cwestiwn cyntaf gan y wasg am y mater hwn.

Holwyd ef a fyddai’r Llywodraeth yn newid ei thargedau, a pha gamau y byddai’n cael ei rhoi ar waith er mwyn sicrhau nad yw tywydd garw yn peri problemau â’r rhaglen eto.

“Doedd [y ffigwr] pobol dros 80 oed erioed yn darged,” meddai.

“O fewn ein strategaeth brechu mae gennym nifer o gerrig milltir, ac un o’n prif amcanion yw brechu grwpiau blaenoriaeth un i bedwar erbyn canol Chwefror.

“Mae pobol dros 80 oed ymhlith y grwpiau yma. Ar hyn o bryd – ar sail y ffigurau diwethaf i mi weld – mae jest dros 52% o bobol dros 80 wedi’u brechu.

“Ond o fewn y grŵp arall yna – pobol sydd yn byw a gweithio mewn cartrefi gofal – mae dros 70% wedi cael eu brechu. Felly rydym wedi profi cynnydd cadarn â’r rheiny.

“Rydym yn dal yn bwriadu brechu’r pedwar grŵp blaenoriaeth gyntaf erbyn canol mis Chwefror. Ac rydym yn credu ein bod ar y trywydd iawn yn hynny o beth. Dyna fyddwn ni’n ei fonitro.”

Beio’r tywydd garw

Mi gododd y mater sawl gwaith yn ystod Cyfarfod Llawn brynhawn ddoe, ac mi atebodd y Prif Weinidog sawl gwestiwn am y mater.

“Mi wnaeth tywydd garw dros y penwythnos gael effaith ar y nod o sicrhau bod 70% o bobol dros 80 oed [wedi’u brechu],” meddai’r Mark Drakeford.

“Doedd llawer o bobol dros 80 oed ddim yn teimlo ei fod yn ddiogel iddyn nhw adael eu cartrefi yn yr eira … dan amodau oer a rhewllyd.

“A doedden nhw’n methu mynd i’w apwyntiadau gyda meddygon teulu neu mewn canolfannau profi. Rydym yn gwybod hynny.

“Bydd pob un o’r bobol rheiny yn derbyn cyfle arall i gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher yr wythnos hon. Felly mi fyddwn yn gwneud i fyny am hynny yn ddigon cyflym.”

Sylw gwrieddiol Vaughan Gething

Rhannodd Vaughan Gething ei nod yn ystod Cyfarfod Llawn Ionawr 19…

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

‘Mae’r haint yn arafu ac mae nifer yr achosion yn crebachu’

Peth “newyddion da” am sefyllfa’r argyfwng, ond dim llacio eto