Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi amddiffyn y ffordd y bydd brechlynnau yn cael eu cyflwyno i bobol Cymru.
Mae dau fath o frechlyn bellach wedi’u cyflwyno yng Nghymru, ac mi fyddan nhw’n cael eu rhoi i grwpiau penodol o bobol ar y tro.
Ar frig y rhestr mae preswylwyr a gweithwyr cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, a phobol hynaf Cymru.
Mae angen dau ddos o bob brechlyn ac mae’r bwlch rhwng y dosys wedi’i ymestyn er mwyn cyflymu’r ymdrech i frechu’r cyhoedd.
Yn siarad â Golwg yr wythnos hon wnaeth Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru y BMA, godi pryderon ynghylch estyniad y bwlch gan ddadlau bod hynny’n llai diogel i staff iechyd.
Ond yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw mae’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi amddiffyn y cam.
“Dw i’n anghytuno â Phil ar hyn,” meddai wrth golwg360. “A dw i’n credu bod y BMA yn anghywir i ddweud ei fod yn amhriodol i ni frechu gymaint o bobol ag y gallwn.
“Pe na bawn wedi cynyddu’r gap rhwng y dosys byddai oedi wedi bod wrth gyflwyno’r brechlyn i staff iechyd, gofal cymdeithasol, a’r cyhoedd.
“O fewn yr amser hynny byddai pobol wedi eu heintio, diweddu fyny yn yr ysbyty, ac yn y pen draw wedi marw.
“Felly wnaethon ni weithredu ar sail rhagfynegiad clir iawn y byddai mwy o niwed o gadw at [fwlch agos rhwng y dosys].”
Ategodd bod yr ail ddos yn “bwysig iawn, wrth gwrs” ond bod modd parhau â’r drefn frechu sydd ohoni “yn ddiogel ac yn effeithiol dros gyfnod hir”.
Beth am yr athrawon?
Ddydd Mawrth mi gyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai gwersi yn cael eu cynnal ar-lein yng Nghymru hyd at Ionawr 18.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am flaenoriaethu athrawon o fewn y rhaglen frechu, ac yn ymateb i’r newyddion wnaethon nhw atgyfnerthu eu cri.
Dyw athrawon ddim ymhlith grwpiau’r ‘rhestr blaenoriaethu’ ar gyfer y rhaglen, ac mae lle i ddadlau y gellir ailagor ysgolion pe bai athrawon wedi’u diogelu â brechlyn.
Wnaeth y wefan hon dynnu sylw at safiad y Ceidwadwyr Cymreig brynhawn heddiw, ac mi wnaeth Frank Atherton amddiffyn y rhaglen frechu.
Ateb y Prif Swyddog
“Dyw athrawon ddim yn wynebu risg uwch (o ran effeithiau negyddol covid, neu ddiweddu fyny yn yr ysbyty) na gweddill y cyhoedd, na chwaith pobol mewn swyddi eraill,” meddai wrth golwg360.
“Felly yn fy marn i, byddai eu symud at frig y rhestr blaenoriaethu yn gamgymeriad. A dyma pam fy mod yn credu hynny: trwy ddyrchafu un grŵp, rhaid i grŵp arall gwympo i lawr.
“Pwy fyddai’n disgyn? Pobol dros 80 oed? Pobol hynod fregus? Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu risg llawer uwch?
“Byddai person rhesymol yn ateb hynny trwy ddweud: ‘Na, dylech chi beidio â gwneud hynny’.”
Ategodd y byddai modd diweddaru’r rhestr pe bai “tystiolaeth newydd yn dod i’r fei”, ond bod yna “ymrwymiad cadarn ar hyn o bryd i gadw at y grwpiau presennol”.
Rhestr grwpiau blaenoriaeth y rhaglen frechu
Rhif ar y rhestr | Y grŵp |
1 | Preswylwyr mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a’u gofalwyr
|
2 | Pawb 80 oed a throsodd, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
|
3 | Pawb 75 oed a throsodd
|
4 | Pawb 70 oed a throsodd ac unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
|
5 | Pawb 65 oed a throsodd
|
6 | Pob unigolyn 16 oed i 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth |
7 | Pawb 60 oed a throsodd
|
8 | Pawb 55 oed a throsodd
|
9 | Pawb 50 oed a throsodd
|
— | Pobol 16-49
|