Bydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn symud i ddysgu ar-lein tan 18 Ionawr, mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi.

Dywedodd Kirsty Williams y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r pythefnos nesaf i weithio gydag awdurdodau lleol a lleoliadau addysg i “i gynllunio ar gyfer gweddill y tymor”.

Yn flaenorol, roedd y llywodraeth wedi trefnu i ysgolion gael hyblygrwydd dros bythefnos gyntaf tymor y gwanwyn, gan ganiatáu iddynt ddewis pryd y byddai myfyrwyr yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.

Ond heddiw, mewn datganiad a chyfres o drydariadau, dywedodd Ms Williams bod penderfyniad wedi’i wneud, mewn ymgynghoriad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cholegau Cymru, i symud i ddysgu ar-lein.

Daw hyn wedi i bedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig ddweud bod y Deyrnas Unedig  ar y “lefel uchaf o risg” o ran coronafeirws.

Mae’r Alban eisoes wedi cyhoeddi y bydd ysgolion a meithrinfeydd yn parhau ar gau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion tan fis Chwefror.

Wrth gyhoeddi’r oedi yng Nghymru, dywedodd Ms Williams: “Dyma’r ffordd orau o sicrhau y gall rhieni, staff a dysgwyr fod yn hyderus wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf.”

“Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal ag i ddysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.”

Dylai ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion aros ar agor os yn bosibl hefyd, meddai.

Mae golwg360 ar ddeall na fydd meithrinfeydd yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad, ac y byddant yn gallu parhau ar agor.

“Mae’n amlwg bellach…”

Yn flaenorol, roedd rhai ysgolion yng Nghymru wedi bod yn paratoi i ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb mor gynnar â dydd Mercher – ond galwodd undebau addysg am ailfeddwl.

Tynnodd undebau sylw at bryderon diogelwch yng ngoleuni’r amrywiolyn Covid-19 newydd, y dywedir ei fod 70% yn fwy trosglwyddadwy, sy’n lledaenu ledled Cymru.

“I gychwyn, roeddem wedi rhoi hyblygrwydd i ysgolion yn ystod pythefnos cyntaf y tymor i benderfynu pryd i ailagor yn seiliedig ar amgylchiadau lleol,” meddai Ms Williams.

“Ond mae’n amlwg bellach mai dull cenedlaethol o ddysgu ar-lein ar gyfer pythefnos cyntaf y tymor yw’r ffordd orau ymlaen.

“Gwyddom fod ysgolion a cholegau wedi bod yn lleoliadau diogel drwy gydol y pandemig.

“Fodd bynnag, gwyddom hefyd y gall lleoliadau addysg sy’n agored gyfrannu at gymysgu cymdeithasol ehangach y tu allan i amgylchedd yr ysgol a’r coleg.

Dywedodd Ms Williams bod y llywodraeth yn “hyderus” fod gan ysgolion a cholegau ddarpariaethau dysgu ar-lein ar waith ar gyfer y cyfnod tan 18 Ionawr.

Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd i fod i ddechrau’r tymor yn raddol ac ni ddylai myfyrwyr ddychwelyd ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb oni bai eu bod yn cael gwybod y gallant wneud hynny, ychwanegodd.

“Mae Cymru yn parhau i fod yn y lefel uchaf o gyfyngiadau. Rhaid i bawb aros gartref,” meddai Ms Williams.

Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrth gynhadledd i’r wasg mai cau ysgolion oedd y “dewis olaf”, gydag unrhyw newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth newydd am yr amrywiolyn a’i effaith.

Gwrthododd yr awgrym o symud athrawon i grŵp blaenoriaeth uwch ar gyfer brechu, gan ddweud y byddai gwneud hynny yn effeithio ar y rhai sydd “mewn perygl gwirioneddol o niwed”.

Llywodraeth Cymru yn parhau â’i chynlluniau i “agor ysgolion mewn ffordd hyblyg”… am y tro

“Rydym yn disgwyl cyngor wedi’i ddiweddaru gan ein harbenigwyr gwyddonol ac iechyd cyhoeddus ein hunain dros y dyddiau nesaf”

Teimladau pobol ifanc am ddychwelyd i’r ysgol

72% o’r bobol ifanc yn teimlo fod Covid-19 wedi cael rhywfaint o effaith ar eu haddysg