Mae Llywodraeth Cymru yn parhau â’u cynlluniau i ailagor ysgolion mewn ffordd hyblyg am y tro, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw, cyn dweud y gallai hyn newid yn y dyddiau nesaf ar sail tystiolaeth a chyngor newydd.

Ddoe (Ionawr 3), dywedodd Mark Drakeford fod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ysgolion “dan ystyriaeth”.

Daeth sylwadau Prif Weinidog Cymru wrth iddo ymateb i bryderon gan nifer o undebau addysg y gallai ailagor ysgolion yn rhy fuan arwain at ymlediad pellach o’r feirws.

‘Gweithredu ar sail y dystiolaeth heddiw neu yfory.’

Ac heddiw (Ionawr 4) dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Os cawn ni dystiolaeth a chyngor heddiw, yna mae’n bosib iawn y bydd rhaid i ni weithredu ar sail y dystiolaeth a’r cyngor hwnnw heddiw neu yfory.”

“Mae’n rhaid i ni weld y dystiolaeth a’r cyngor gyntaf, cyn cymryd camau a fyddai’n achosi mwy o banig a diffyg dealltwriaeth.

“Dwi’n credu fod pobol eisiau eglurdeb, ond dwi’n credu fod rhan fwyaf o bobol yn deall bod rhaid cael tystiolaeth a chyngor er mwyn gwneud penderfyniadau, a dyna le mae’r Llywodraeth [Cymru] yn sefyll,” meddai Vaughan Gething.

“Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud byddwch yn clywed gan un o weinidogion Cymru, ac ymhen ychydig o amser, gallwch ddisgwyl i’r dystiolaeth a’r cyngor gael ei gyhoeddi. Dyna’r ydym ni wedi’i wneud trwy gydol y pandemig.”

Eglurodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru wedi “gwneud dewis bwriadol” cyn y Nadolig er mwyn caniatáu i ysgolion allu ailagor mewn ffordd hyblyg fis Ionawr.

“Rydym yn disgwyl cyngor wedi’i ddiweddaru gan ein harbenigwyr gwyddonol ac iechyd cyhoeddus ein hunain dros y dyddiau nesaf,” meddai.

Mesurau i atal lledaenu’r feirws mewn ysgolion yn “effeithiol”

Daw hyn wrth i ragor o undebau addysg feirniadu Llywodraeth Cymru, a galw ar y Gweinidog Addysg i ohirio dysgu wyneb yn wyneb am o leiaf bythefnos.

Mae NEU Cymru, o’r farn y byddai hyn yn rhoi amser i wyddonwyr asesu sefyllfa’r amrywiolyn newydd yng Nghymru, gan “sicrhau ein bod yn rhoi diogelwch a lles pawb yn gyntaf.”

Er hynny, mae mesurau i atal lledaenu’r coronafeirws mewn ysgolion yng Nghymru wedi bod yn “effeithiol”, yn ôl Vaughan Gething.

“Mae gennym dystiolaeth dda – ac mae diolch i athrawon, arweinwyr addysg, a staff ysgolion am hyn – fod ein hysgolion wedi gallu parhau i addysgu disgyblion, ac nid oes gennym dystiolaeth fod y feirws wedi cael ei drosglwyddo rhwng disgyblion a staff.

“Mae hynny’n dangos fod y mesurau sydd mewn lle wedi bod yn effeithiol, ac mae’n glod i’r bobol sydd yn rhedeg ein hysgolion ac i ymddygiad ein disgyblion.

“Y prif bryder sydd gennym ynghylch agor ysgolion yw ei fod yn rhoi mwy o gyfle i oedolion gymysgu hefyd,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

Powys

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi heddiw na fydd ysgolion yn y sir yn ailagor i’r holl ddisgyblion yr wythnos hon.

Roedd disgwyl i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol ddydd Mercher (Ionawr 6), ond yn sgil pryderon am y straen newydd o’r coronafeirws mae’r Cyngor Sir wedi penderfynu na fydd y mwyafrif o ddysgwyr yn mynd yn ôl i’r ysgol cyn ddydd Llun 11 Ionawr.

Bydd ysgolion ar agor ddydd Mercher Ionawr 6 i ddisgyblion cynradd a’r rhai ym mlynyddoedd 7 ac 8 sydd â rheini neu ofalwyr sy’n weithwyr allweddol, ynghyd â dysgwyr sy’n agored i niwed.

Bydd ysgolion yn cynnig dysgu cyfunol o ddydd Mercher ymlaen i ddisgyblion fydd adre.

“Mae’r pandemig hwn yn dal i gydio sydd wedi creu heriau di-ri, felly rhaid addasu yn ôl hynny,” meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion addysg, Phyl Davies.

“Mae pethau’n symud yn gyflym ar draws Cymru a’r DU a rhaid i ni sicrhau ein bod yn ymateb a gwneud ein disgyblion, teuluoedd a staff mor ddiogel â phosibl.

“Nid penderfyniad hawdd mo hwn, ond o ystyried y straen newydd o’r feirws a bod Cymru’n dal i fod o fewn cyfyngiadau haen 4, y peth iawn yw gohirio’r dyddiad y bydd dysgwyr yn mynd nôl i’r ysgol,” ychwanegodd y Cynghorydd.

Gwynedd

Yn dilyn cyfarfod brys o benaethiaid ysgolion Gwynedd bydd pob ysgol yn y sir yn symud i ddysgu o bell o fory ymlaen (Ionawr 5).

Bydd y trefniadau hyn mewn lle tan ddiwedd yr wythnos ar hyn o bryd, yn ôl tudalen Facebook Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

Ysgolion a cholegau ledled Cymru yn symud i ddysgu ar-lein tan ddydd Llun 18fed Ionawr

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cadarnhau oedi wrth ailagor ysgolion

Undebau’n beirniadu Llywodraeth Cymru wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol

NEU Cymru yn galw ar y Gweinidog Addysg i ohirio dysgu wyneb yn wyneb am o leiaf bythefnos