Fe fydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ysgolion ar ôl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn parhau “dan ystyriaeth”, yn ôl Mark Drakeford.

Daw sylwadau prif weinidog Cymru wrth iddo ymateb i bryderon nifer o undebau addysg y gallai ailagor ysgolion yn rhy fuan arwain at ymlediad pellach y feirws, yn enwedig gan fod amrywiad newydd wedi’i ganfod erbyn hyn.

Mae undebau NAHT Cymru a NASUWT Cymru yn galw am barhau â gwersi ar-lein hyd nes bod mwy o wybodaeth ar gael am yr amrywiad, yn hytrach na dychwelyd at ddysgu wyneb-yn-wyneb rhwng Ionawr 11 ac 18.

Mae Mark Drakeford yn dweud bod cynllun i ddychwelyd disgyblion yn raddol wedi’i gytuno mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol er mwyn i ysgolion unigol benderfynu pryd fydd disgyblion yn cael dychwelyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ddibynnol ar sefyllfa’r feirws mewn ardaloedd unigol.

Ond bydd y cynllun hwn yn parhau “dan ystyriaeth” tra bod arbenigwyr yn ystyried yr holl opsiynau, meddai.

‘Penderfyniadau ar sail gwybodaeth ac ymchwil’

“Wrth gwrs, byddwn ni’n parhau i wneud penderfyniadau yng ngoleuni’r wybodaeth ac ymchwil orau sydd ar gael i ni ar y pryd,” meddai Mark Drakeford wrth Radio Wales.

“Ond fel llywodraeth, fyddwn ni ddim yn colli golwg ar y ffaith fod gennym genhedlaeth o bobol ifanc yma yng Nghymru y mae eu bywydau wedi’u heffeithio cynddrwg yn 2020, y mae angen rhoi eu hanghenion addysg yn ôl ar y trywydd cywir.

“A’u hanghenion nhw fydd yn parhau i fod ym mlaen ein meddyliau wrth i ni drefnu gyda’n cydweithwyr i ddychwelyd yn ddiogel i’r ysgol.”

Amrywiad newydd

Yn ôl Mark Drakeford, does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod yr amrywiad newydd yn fwy peryglus i bobol ifanc, ond mae’n cydnabod ei fod yn lledu’n “gynt o lawer”.

Yn ôl NAHT Cymru a NASUWT, mae’r pryderon am yr amrywiad a’r perygl i athrawon yn golygu na ddylid ailagor ysgolion ac y dylid parhau i ddysgu ar-lein am y tro.

Dywed NASUWT na fydden nhw’n “oedi cyn cymryd camau priodol” er mwyn gwarchod pobol yn wyneb “methiant cyflogwyr neu Lywodraeth Cymru i sicrhau amodau gwaith diogel mewn ysgolion”.

Mae modd darllen llythyron yr undebau yma:

Trefniadau ail-agorhttps://www.ucac.cymru/images/newyddion/Ail-agor_Ionawr.pdf

Trefniadau profi: https://www.ucac.cymru/images/newyddion/Profion.pdf