Mae Tony Blair, cyn-brif weinidog Llafur Prydain, yn dweud na fyddai’n “fuddiol i’r Alban wahanu oddi wrth Loegr”, a’i bod yn “anodd eithriadol” herio’r dadleuon tros annibyniaeth i’r Alban heb fod gwrthblaid gref i herio’r SNP ac i gyflwyno’r dadleuon dros yr Undeb.

Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson ategu ei farn yntau mai digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth yw refferendwm annibyniaeth.

Yn ôl Blair, prif weinidog Prydain rhwng 1997 a 2007 pan gafodd yr Alban a Chymru fwy o bwerau datganoli, mae angen darbwyllo pobol ynghylch cryfderau’r Undeb er mwyn curo’r dadleuon tros annibyniaeth.

“Rhaid i chi edrych ar y ffyrdd y gallwn ni gyflwyno’r achos mewn ffyrdd rhugl a synhwyrol pam fod yr Alban yn gryfach ac yn well ei byd y tu fewn i’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Ond dw i’n dychwelyd at y pwynt sydd a wnelo dim â Boris Johnson, mae a wnelo’n fwy â’r Blaid Lafur mewn gwirionedd.

“Sut ydych chi’n gwneud y Blaid Lafur yn wrthblaid gredadwy yn yr Alban drachefn?

“Oherwydd tra bod yr SNP yn gallu llywodraethu bron yn ddiwrthwynebiad, yna mae’n eithriadol o anodd rhoi tolc yn eu safiad ar annibyniaeth.

“Ond mater i ni benderfynu fel Plaid Lafur yw hynny o ran sut rydyn ni am wneud hynny.”

Annibyniaeth “yn ôl ar yr agenda” ar ôl Brexit

Yn ôl Tony Blair, mae Brexit yn golygu bod annibyniaeth bellach yn opsiwn eto i’r Alban er i’r mwyafrif (55%) bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn 2014.

“Fe gawson ni refferendwm oedd yn gwrthod annibyniaeth i’r Alban, ond fe wnaeth Brexit ei roi’n ôl ar yr agenda eto,” meddai.

“Ac fe fydd yn gofyn am reolaeth ofalus.

“Y gwir amdani yw nad yw’n fuddiol o hyd i’r Alban wahanu oddi wrth Loegr.

“Mae rhesymau economaidd a gwleidyddol enfawr i’r Deyrnas Unedig aros yn Deyrnas Unedig ond bydd rhaid i ni archwilio a oes yna setliadau cyfansoddiadol gwahanol.”

‘Esgus bod yn wrthblaid’

Wrth feirniadu’r SNP, mae’n dweud bod plaid lywodraeth yr Alban “yn esgus bod yn wrthblaid”.

“Dw i hefyd yn credu ei bod yn bwysig dros ben, y peth pwysicaf yn wleidyddol yn fy marn i, ein bod ni’n cael gwrthblaid alluog iawn yn yr Alban – a’r Blaid Lafur ddylai honno fod – sy’n gallu herio safbwynt cenedlaetholgar yr Alban yn yr Alban mewn ffordd sy’n eu hatal nhw rhag gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd, sef llywodraethu’r Alban ond esgus eu bod nhw’n wrthblaid,” meddai.

“Felly esgus bod yr holl broblemau’n mynd i gael eu datrys drwy annibyniaeth, pan fod gan Lywodraeth yr Alban nifer fawr o bwerau sydd eu hangen er mwyn newid yr Alban sy’n rhan o setliad datganoli’r Alban.”