Mewn cyfweliad ag Andrew Marr ar y BBC, dywedodd fod y cyfyngiadau eisoes yn “llym iawn” ond ei bod yn debygol y bydd angen iddyn nhw fod yn llymach fyth er mwyn mynd i’r afael â Covid-19.
“Mae’n amlwg fod yna ystod o fesurau llymach y byddai’n rhaid i ni eu hystyried,” meddai.
“Dwi ddim am awgrymu nawr beth fydden nhw, ond dw i’n sicr y bydd ein holl wylwyr a gwrandawyr yn deall pa fath o bethau… mae cau ysgolion, yn amlwg, fel yr oedd rhaid i ni ei wneud ym mis Mawrth yn un o’r pethau hynny.”
Ond fe ddywedodd fod y brechlynnau’n un ffordd allan o’r system haenau, gyda rhannau helaeth o wledydd Prydain eisoes dan gyfyngiadau llym.
“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud nawr yw defnyddio’r system haenau, sy’n system lym iawn ac, yn anffodus, mae fwy na thebyg am fynd yn llymach er mwyn cadw pethau dan reolaeth.
“Ond mi fyddwn ni’n ei hadolygu.”
Cyfnod clo i Lerpwl?
Daw sylwadau Boris Johnson wrth i arweinwyr Cyngor Lerpwl alw am gyflwyno cyfnod clo eto er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiad newydd ac osgoi “trychineb”.
Maen nhw’n galw am “weithredu brys” gan fod nifer yr achosion yn cynyddu’n sylweddol yno.
Ond mae’r amrywiad newydd yn fwyaf amlwg yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.
Yn ôl yr Athro Syr Mark Walport, sy’n aelod o bwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain, mae’n “eithaf amlwg” fod angen cyflwyno cyfyngiadau llymach.