Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Cafodd y dyn a’r gyrrwr arall eu hanafu ar ôl i Nissan Juke a Ford Ka daro yn erbyn ei gilydd yn ardal y Rhath am oddeutu 1.30yp.

Mae’r dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau gyrru, ac fe gafodd y ddau yrrwr eu cludo i’r ysbyty am driniaeth, ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.