Dydy refferenda “ddim yn ddigwyddiadau llawen”, yn ôl Boris Johnson.

Yn ôl prif weinidog Prydain, ddylen nhw ddim cael eu cynnal mwy nag unwaith mewn cenhedlaeth.

Mae hyn yn ategu ei sylwadau wrth drafod dymuniad yr Alban i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn dilyn yr un aflwyddiannus yn 2014.

“Does ganddyn nhw ddim grym uno nodedig o ran hwyliau’r genedl, a dylen nhw fod dim ond unwaith mewn cenhedlaeth,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

Yr Undeb Ewropeaidd

Yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd, mae’n dweud bod “bwlch priodol” rhwng y refferendwm yn 1975 i ymuno â’r Undeb a’r un yn 2016 i adael.

“Y gwahaniaeth yw ein bod ni wedi cael refferendwm yn 1975 ac fe gawson ni un arall yn 2016,” meddai.

“Mae hynny’n ymddangos fel y bwlch priodol”.

Yr Alban

Ond beth sy’n digwydd pan fo sefyllfa gwlad yn newid mewn cyfnod byr o amser, fel yr Alban?

Er iddyn nhw bleidleisio ‘Na’ ychydig dros chwe mlynedd yn ôl, mae’r pôl diweddaraf yn awgrymu bod cynifer â 58% o’r boblogaeth bellach o blaid annibyniaeth.

Yn 2014, roedd 55.3% yn erbyn.

Ac mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes yn dweud y byddai Alban annibynnol yn cynnal refferendwm er mwyn ceisio ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

O dan y drefn bresennol, mae diffyg annibyniaeth yn golygu bod yr Alban yn rhan o fargen Brexit sy’n newid y berthynas fasnachu a theithio â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd – er i’r Alban “gael ei llusgo allan” gyda gwledydd eraill Prydain.