Mae 41% o gynghorau Cymru’n ardaloedd Masnach Deg, yn ôl ystadegau sydd newydd gael eu cyhoeddi.
Yn ôl data Fairtrade UK, yr Alban sydd â’r nifer fwyaf o gynghorau sy’n cefnogi Masnach Deg (65%), o gymharu â 33% yn Lloegr.
Beth yw Masnach Deg?
Mae Masnach Deg yn sicrhau prisiau gwell, gwell amodau gwaith, cynaladwyedd lleol ac amodau gwell i ffermwyr fasnachu ac i weithwyr yn gyffredinol.
Wrth gymeradwyo cynnyrch Masnach Deg, mae cynghorau’n sicrhau bod ffermwyr mewn gwledydd sy’n datblygu yn derbyn pris teg am eu cynnyrch ac nad ydyn nhw’n cael eu hecsbloetio.
Yn ôl cynllun Masnach Deg, gall ffermwyr mewn diwydiannau megis coffi ennill bywoliaeth deg, sy’n eu galluogi nhw i gynnal eu teuluoedd.
Trwy sicrhau bod rhaid i gwmnïau dalu prisiau cynaladwy nad ydyn nhw byth yn cwympo’n is na phris y farchnad, mae Masnach Deg yn gallu herio anghyfiawnderau masnachu cyffredin sy’n gwahaniaethu yn erbyn y bobol fwyaf bregus.