Mae’r awdurdodau yn Norwy wedi dod o hyd i bedwerydd corff yn dilyn tirlithriad bum niwrnod yn ôl.

Mae chwech o bobol yn dal ar goll yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Ask, ryw 16 milltir o’r brifddinas Oslo.

Fe fu hofrenyddion a dronau’n helpu’r ymdrechion, yn ogystal â chamerâu sy’n gallu canfod gwres.

Mae’r heddlu yn Norwy eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cwtogi eu hymdrechion i ddod o hyd i’r rhai sy’n dal ar goll, er bod tîm achub o Sweden eisoes wedi gadael y wlad.

Yn ôl yr heddlu, mae gobaith o hyd y gallai rhai pobol gael eu canfod yn fyw, er nad oes arwyddion o fywyd o dan y rwbel ar hyn o bryd.

Dim ond ci sydd wedi’i ganfod yn fyw hyd yn hyn.

Hwn yw’r tirlithriad gwaethaf erioed yn y wlad ac ymhlith y rhai sydd ar goll mae plentyn dwy oed.

Cafodd o leiaf naw o adeiladau eu dinistrio yn y digwyddiad.

Gyda chyn lleied o olau yn ystod y dydd yn y gaeaf, mae’r timau achub yn ei chael hi’n anodd chwilio am gyfnodau hir.

Mae dros 1,000 o bobol eisoes wedi cael eu symud o’u cartrefi a gallai hyd at 1,500 o bobol gael eu symud o’r ardal yn gyfangwbl yn sgil pryderon am ragor o dirlithriadau.