Fe fydd pobol yn dechrau derbyn brechlyn coronafeirws AstraZeneca Rhydychen yr wythnos hon, wrth i ganolfannau brechu gael eu sefydlu mewn ysbytai a meddygfeydd.
Mae disgwyl i Gymru gael cyfran o’r 530,000 dos sydd ar gael drwy wledydd Prydain o yfory (dydd Llun, Ionawr 4) ac unwaith eto, pobol fregus fydd yn cael eu blaenoriaethu.
Mewn ysbytai y bydd pobol yn cael eu brechu yn ystod dyddiau cynta’r rhaglen, cyn i gyflenwadau gael eu hanfon i feddygfeydd.
Daw’r brechlyn diweddaraf ryw fis ar ôl y brechlyn Pfizer BioNTech, ac mae mwy na miliwn o bobol eisoes wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn hwnnw.
Ond fydd pobol ddim yn cael ail ddos am 12 wythnos, yn hytrach na’r 21 diwrnod a gafodd ei nodi’n wreiddiol, wrth i’r awdurdodau geisio cyflymu’r broses o frechu cynifer o bobol â phosib.
Un o fanteision brechlyn AstraZeneca Rhydychen yw ei bod yn haws cludo hwnnw na’r brechlyn Pfizer BioNTech sy’n gorfod cael ei storio ar dymheredd o -70 gradd selsiws.