Mae undebau athrawon yn galw am oedi cyn ailagor ysgolion yng Nghymru ar ôl y gwyliau o ganlyniad i amrywiad newydd o’r coronafeirws.

Yn ôl NASUWT ac NAHT Cymru, dylid aros wythnos ychwanegol cyn bod disgyblion yn cael dychwelyd, a hynny am fod y tebygolrwydd o drosglwyddo’r amrywiad newydd yn uwch na Covid-19.Maen nhw’n galw am symud yr holl wersi ar-lein.

Fis diwethaf, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn raddol ac y byddai dysgu wyneb-yn-wyneb yn ailddechrau i’r mwyafrif ar Ionawr 11 cyn i bawb ddychwelyd yn llawn cyn Ionawr 18.

Byddai hynny’n sicrhau hyblygrwydd yn wyneb ansicrwydd ynghylch effaith ymlediad y feirws ar lefelau staffio mewn ysgolion ar draws y wlad.

Ond ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 2), dywedodd NASUWT na fydden nhw’n “oedi cyn cymryd camau priodol er mwyn gwarchod aelodau y mae eu diogelwch yn y fantol o ganlyniad i fethiant cyflogwyr neu Lywodraeth Cymru i sicrhau amodau gwaith diogel mewn ysgolion”.

Ymateb yr undebau

“Mae Cymru gyfan yn Haen 4 ond eto, mae ysgolion yng Nghymru sy’n bwriadu agor yr wythnos hon ar gyfer dysgu wyneb-yn-wyneb,” meddai Neil Butler, swyddog cenedlaethol Cymru ar gyfer undeb NASUWT.

“Mae annhrefn a dryswch yn y gwasanaeth addysg yng Nghymru gan fod y cyfrifoldeb, i bob pwrpas, wedi cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol ac mae rhai awdurdodau wedi ei drosglwyddo eto i ysgolion unigol.

“Mae angen i ni glywed gan y gweinidog addysg fod dysgu wyneb-yn-wyneb wedi’i ohirio tan bod ysgolion yn gallu adolygu eu hasesiadau risg er mwyn gallu ymdopi â’r amrywiad newydd.

“Yn ystod y cyfnod hwnnw, gall athrawon gael yr amser o’r diwedd i ddatblygu adnoddau dysgu o bell y mae dirfawr eu hangen.”

Dywed Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, fod yr undeb yn “deall fod Llywodraeth Cymru’n ceisio darganfod cydbwysedd rhwng lleihau’r perygl o drosglwyddo Covid-19 a darparu addysg wyneb-yn-wyneb i bob plentyn”.

“Fodd bynnag, mae’r data diweddaraf yn dangos, yn rhannau helaeth o Gymru, fod rheolaeth o’r feirws wedi’i cholli a bod y diffyg dealltwriaeth ynghylch yr amrywiad newydd bellach wedi creu risg nad oes modd i nifer o gymunedau ysgolion ei goddef,” meddai.

“Yn syml iawn, mae’n annerbyniol bod ysgolion yn aros ar agor pan fod marc cwestiwn mawr ynghylch yr effaith y bydd yr amrywiad newydd yn ei chael, a fyddwn ni ddim yn eistedd yn ôl ac yn gadael i hyn ddigwydd heb ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, er lles y gymuned ysgol gyfan.”