Mae Llafur Cymru’n dweud bod Jo Stevens, aelod seneddol Canol Caerdydd, yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am Covid-19.

Daeth i’r amlwg ar Nos Galan ei bod hi wedi’i tharo’n wael â’r coronafeirws ers tro.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed ei thîm ei bod hi “eisiau i ni roi wybod i chi ei bod hi’n cael ei thrin yn yr ybsyty ar gyfer Covid”.

Dywedodd llefarydd y byddai Llafur Cymru yn “rhoi diweddariad pan fyddai’n bosib”.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi dymuno’n dda iddi.