Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd am eira a rhew yn y gogledd a’r canolbarth.

Mae’r rhybudd cyntaf yn dod i ben am 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Ionawr 2), ond fe fydd yr ail rybudd mewn grym am weddill y dydd.

Maen nhw’n dweud y gallai hyd at 50mm o eira gwympo ar dir uchel, a hyd at 20mm ar dir isel ac y gallai hynny wneud amodau gyrru yn anodd.

Mae Heddlu’r Gogledd eisoes wedi bod yn rhybuddio pobol i gadw draw o’r A487 ym Mhorthmadog oherwydd bod rhew ar y ffordd.

Mae’r rhybudd cyntaf yn ymwneud â siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam, a’r ail yn berthnasol i siroedd Mynwy, Powys a Wrecsam.