Mae protestwyr yn erbyn cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi cael eu harestio yng nghanol dinas Llundain.

Daeth tua 300 o bobol ynghyd yn Hyde Park heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2) i brotestio yn erbyn y cyfyngiadau cenedlaethol mewn ardal sy’n destun cyfyngiadau Haen 4, sef y cyfyngiadau llymaf.

Roedd y mwyafrif wedi gadael yr ardal erbyn 4.45yp, ac mae 17 o bobol yn y ddalfa ar amheuaeth o dorri rheoliadau iechyd cyhoeddus.

Mae’r heddlu wedi annog pobol i adael yr ardal ar unwaith.