Mae timau achub wedi dod o hyd i gyrff dau o bobol ym mhentref Ask, 16 milltir o’r brifddinas Oslo.
Mae heddlu Norwy yn dweud na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i’r chwilio am y tro, ond mae tîm o Sweden eisoes wedi mynd adref.
Mae’r awdurdodau eisoes wedi dod o hyd i gi yn fyw o dan rwbel, a’r gobaith yw y byddan nhw’n gallu dod o hyd i bobol hefyd.
Hwn yw’r tirlithriad gwaethaf yn hanes cyfoes y wlad.
Ymhlith y rhai fu farw mae plentyn dwy oed, a chafodd o leiaf naw o adeiladau eu dinistrio.
Mae pryderon y gallai hi fod yn anodd parhau i chwilio am ragor o bobol oherwydd diffyg golau yn ystod y gaeaf.
Mae dros 1,000 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi, ac mae’n bosib y gallai 1,500 yn rhagor gael eu symud yn sgil pryderon am ragor o dirlithriadau.