Mae gorsaf deledu RTE wedi ymddiheuro am ddarlledu sgets sydd wedi denu beirniadaeth am “sarhau Duw”.

Fel rhan o ddathliadau Nos Galan yr orsaf, fe wnaethon nhw ddarlledu’r sgets ddychanol gan Waterford Whispers News lle’r oedd y cyflwynydd Aengus Mac Grianna yn honni bod Duw wedi cael ei arestio am aflonyddu rhywiol, a’i ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd wedi’i gohirio.

Roedd y sgets yn cynnwys cymeriad Duw, oedd yn cael ei dywys gan aelod o’r gardai, heddlu Iwerddon, ac yn gweiddi bod y drosedd wedi’i chyflawni “2,000 o flynyddoedd yn ôl”.

Derbyniodd yr orsaf dros 600 o gwynion a beirniadaeth gan yr Archesgob Eamon Martin fod y sgets yn “sarhaus a chableddus dros ben”.

Dywed RTE eu bod nhw’n prosesu’r cwynion ac y byddan nhw’n ymateb iddyn nhw yn unol â’u prosesau statudol.