Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau yn dweud eu bod nhw wedi’u “ffieiddio” ac wedi rhoi gwybod i’r heddlu am negeseuon hiliol sydd wedi’u hanfon at eu hasgellwr Ashton Hewitt ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn datganiad, maen nhw’n dweud bod “pob math o ymddygiad o wahaniaethu yn gwbl annerbyniol”, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “condemnio” y digwyddiad “yn y termau cryfaf posib”.
Dywed y rhanbarth ymhellach nad yw sylwadau’r unigolyn yn “cynrychioli gwerthoedd ein gêm”.
“Mae’r Dreigiau’n cymryd yr holl adroddiadau am droseddau casineb yn ddifrifol iawn,” meddai’r rhanbarth wedyn.
“Does dim lle i’r fath ymddygiad ar-lein, yn ein stadiwm, ein cymuned nac yn ein gêm.”
Amrywiaeth
Dywed y Dreigiau ymhellach eu bod nhw’n “dathlu cydraddoldeb, amrywiaeth, parch a chynhwysiant”.
“Rydym yn sefyll yn gadarn y tu ôl i Ashton ac yn parhau i gefnogi’n llwyr ei ymdrechion rhagorol wrth geisio dileu rhagfarn hiliol lle bynnag y mae’n bod,” meddai’r datganiad wedyn.
“Mae hon yn frwydr barhaus i Ashton ac mae’r rhanbarth yn cydnabod pa mor anodd fu’r misoedd diwethaf iddo fe.
“Mae’r Dreigiau bellach wedi adrodd wrth yr heddlu am y mater.”
Mae Heddlu Gwent bellach wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod nhw wedi siarad â’r rhanbarth a’r chwaraewr.