Mae Sourav Ganguly, cyn-fatiwr tramor tîm criced Morgannwg a chyn-gapten tîm India, yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael ataliad ar y galon.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad fore heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2).
Mewn datganiad, dywed Bwrdd Rheoli Criced India (BCCI) fod y dyn 48 oed, oedd wedi chwarae i Forgannwg yn 2005, yn ymateb yn dda i driniaeth.
Chwaraeodd e mewn 113 o gemau prawf a 311 o gemau undydd dros ei wlad, gan eu harwain mewn gemau prawf 49 o weithiau o 2000 i 2005.
Sgoriodd e gyfanswm o 7,212 o rediadau mewn gemau prawf, gan gynnwys 16 canred.
Mae’n nawfed prif sgoriwr y byd mewn gemau undydd rhyngwladol, gydag 11,363 o rediadau, gan daro 22 canred mewn gemau 50 pelawd.
Mae’n llywydd y BCCI ers Hydref 2019.