Mae gêm bêl-droed Casnewydd yn erbyn Southend yn yr Ail Adran heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2) wedi cael ei gohirio oherwydd bod cae Rodney Parade wedi rhewi.

Fe wnaeth y dyfarnwr Paul Howard archwilio’r cae cyn penderfynu nad fyddai’n ddiogel chwarae ar ddarnau o’r cae.

Mae disgwyl i ddyddiad newydd y gêm gael ei gyhoeddi maes o law.