Mae’n benwythnos mawr i’r Cymro Gerwyn Price, sydd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Dartiau’r Byd.

Fe fydd y chwaraewr 35 oed o sir Caerffili yn herio Stephen Bunting yn y pedwar olaf heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Cymro gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Yn y gêm gyn-derfynol arall, bydd Dave Chisnall yn herio Gary Anderson.

Cyrhaeddodd Price y pedwar olaf ar ôl curo Daryl Gurney o 5-4 neithiwr (nos Wener, Ionawr 1).

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal nos yfory (nos Sul, Ionawr 3).