Mae gêm bêl-droed Caerdydd yn Rotherham wedi’i gohirio oherwydd y tywydd.

Mae’n bwrw eira yn Swydd Efrog heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Fe wnaeth y dyfarnwr archwilio’r cae toc cyn 2 o’r gloch, a phenderfynu gohirio’r gêm yn dilyn trafodaethau â’r ddau reolwr.