Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi codi i’r ail safle awtomatig yn y Bencampwriaeth ar ôl i Jamal Lowe sgorio dwy gôl mewn buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Watford yn Stadiwm Liberty.
Dyma bumed buddugoliaeth yr Elyrch mewn wyth gêm, a dim ond unwaith maen nhw wedi colli yn ystod y cyfnod hwnnw gan gadw tair llechen lân yn olynol cyn heddiw.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 19 munud yn erbyn llif y chwarae wrth i Tom Cleverley rwydo.
Ond manteisiodd yr Elyrch ar gryn dipyn o feddiant wedyn i reoli’r gêm.
Fe wnaethon nhw unioni’r sgôr ddwy funud cyn yr egwyl wrth i Lowe daro’r postyn cyn i’r bêl adlamu i ochr arall y gôl ar ei ffordd i gefn y rhwyd.
Oddi ar ei ben ddaeth ail gôl Lowe ar ôl 66 munud, a hynny oddi ar groesiad gan Korey Smith, ac mae e bellach wedi sgorio wyth gôl y tymor hwn.
Daeth sawl cyfle yn niwedd y gêm i Watford, gan gynnwys foli gan Troy Deeney ond colli wnaeth yr ymwelwyr yn y pen draw wrth i’r rheolwr newydd Xisco Munoz golli gêm am y tro cyntaf ers iddo fe gael ei benodi.
Mae’r canlyniad yn gadael Watford yn chweched, sef safle isa’r gemau ail gyfle.
Pedwar pwynt yn unig sydd rhwng Abertawe a Norwich ar y brig.
Canmol Jamal Lowe
Ar ôl y gêm, fe wnaeth y rheolwr Steve Cooper ganmol perfformiad Jamal Lowe.
“Yn nhermau lefelau’r perfformiadau, dw i’n credu ei fod e wedi bod yn wych drwy gydol y tymor, ond dyna wydnwch i gadw i fynd,” meddai am ei ddiffyg goliau ar ddechrau’r tymor.
“Y cynllun yw i gadw fynd, dyna’r ffocws.
“Mae e’n gwneud cynnydd da ac rydyn ni wedi gofyn iddo fe wneud pethau sydd wedi bod yn wahanol iddo fe yn y gorffennol.
“Mae e wedi bod yn asgellwr ac rydyn ni wedi dod â fe i mewn gyda syniad ynghylch sut i’w adeiladu fe.
“Mae e’n dal i adeiladu tua’r lle rydyn ni eisiau iddo fe fod, ond fydd e fyth yn methu trwy ddiffyg ymdrech.”