Mae Gerwyn Price wedi creu hanes drwy fod y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC.
Fe gurodd e’r Sais Stephen Bunting o chwe set i bedair, ac fe wnaeth y ddau dorri record ar y cyd, gydag 13 sgôr o fwy na 100 i ennill gemau – y nifer fwyaf erioed ym Mhencampwriaeth y Byd, gyda Price yn sgorio wyth.
Cafodd y gystadleuaeth ei sefydlu 28 o flynyddoedd yn ôl.
Manylion yr ornest
Enillodd Price y set gyntaf yn yr Alexandra Palace yn Llundain gyda chyfartaledd o 105 ar ôl i’r pedair gêm gyntaf ddod i ben â sgôr o fwy na 100.
Tarodd Bunting yn ôl yn yr ail set cyn mynd ar y blaen o dair set i un ar ôl pedair.
Enillodd Price y bumed a’r chweched set i unioni’r sgôr, 3-3.
Sgoriodd Bunting 148 i ennill y seithfed set wrth dorri tafliad Price ond 4-4 oedd hi wedi’r wythfed set wrth i’r Cymro orffen honno gyda chyfartaledd o 112.
Enillodd e’r set dyngedfennol cyn aros i glywed ai Gary Anderson neu Dave Chisnall fyddai ei wrthwynebydd yn y rownd derfynol.
Ac fe ddaeth cadarnhad yn y pen draw mai’r Albanwr Anderson fydd yn y ffeinal nos yfory (nos Sul, Ionawr 3), ar ôl iddo fe guro’r Sais Chisnall o chwe set i dair.