Mae gan Gerwyn Price gyfle mawr heno (nos Sul, Ionawr 3) i wrthbrofi barn llawer o bobol mai dim ond cyn-chwaraewr rygbi sy’n chwarae dartiau yw e, yn ôl Dylan Williams, cydlynydd gwefannau cymdeithasol PDC Cymru.
Bydd y chwaraewr 35 oed o sir Caerffili yn herio’r Albanwr Gary Anderson yn yr Alexandra Palace yn Llundain er mwyn bod y Cymro cyntaf erioed i gael ei goroni’n bencampwr byd dartiau’r PDC.
Dim ond ers 2014 mae e’n chwarae’n broffesiynol, a hynny ar ôl gyrfa rygbi yn chwarae i Gastell-nedd, Cross Keys a Glasgow a ddaeth i ben wrth iddo newid cyfeiriad ar ôl cyfres o anafiadau, troi ei gefn ar y gamp i dimau a rhoi cynnig ar y gamp i unigolion.
Bellach, mae ganddo fe gyfle i ymuno â chriw dethol o bencampwyr byd ac yn ôl Dylan Williams, y pwysau hyn i lwyddo ddwy flynedd yn ôl arweiniodd at ffrae fawr ag Anderson yn y Grand Slam, pan wnaeth yr Albanwr ei gyhuddo o arafu’r chwarae’n fwriadol ac o or-ddathlu wrth ennill gemau.
“O’dd hi fel pantomeim y noswaith ’ny,” meddai Dylan Williams wrth golwg360.
“Mae Gary yn un o’r ffefrynnau yn y gamp, mae lot o bobol yn hoffi Gary a fi’n credu bod pobol dal yn meddwl taw chwaraewr rygbi yw Gerwyn wedi dod mewn i’r gamp yma fel rhywun oedd yn siawnso’i lwc ond o’dd hi’n gwbl amlwg o’r dyddiau cynnar bod Gerwyn yn fwy na rhywun o’dd wedi pigo lan set o ddarts lawr y clwb rygbi.
“O’dd ’na dalent yna a hefyd y cymeriad i fyth â rhoi fyny, felly mae’n rhyfedd bo ni dal yn siarad am y gêm yma ddwy flynedd a hanner yn ôl ond mae pethau wedi newid.
“Mae statws â Gerwyn fel chwaraewr, mae’r cymeriad ei hunan wedi newid lot.
“Wnaeth e ddweud ei hunan neithiwr fod e’n teimlo bod e’n eitha’ immature ar y pryd. Hon oedd ei ffeinal fawr gynta’ fe a fi’n credu bod pwysau a bod y mind games wedi mynd bach yn rhy bell.
“Heno, bydd e wedi paratoi lawer gwell a bydden i jyst yn disgwyl i’r dartiau wneud y siarad.
“Yn amlwg, bydd lot o weiddi a sgrechen, dyna’i gymeriad e, ond fi’n credu bydd lot mwy o chwarae o fewn ei hunan yn hytrach na gorfod gwneud rhyw fath o sioe.”
Troi’n broffesiynol ac ennill ei gerdyn yn 2014
Wrth droi’n broffesiynol, mae chwaraewyr dartiau’n mynd i ‘Q School’ er mwyn ennill cerdyn i gael chwarae mewn cystadlaethau a chael codi drwy’r rhengoedd ac i fyny’r rhestr o ddetholion.
Yn ôl Dylan Williams, roedd y ddwy flynedd gynta’n sylfaen dda i’r Cymro.
“Ti’n gorfod chwarae am bum diwrnod i ennill cerdyn i fynd ar y gylchdaith, a ti’n cael dwy flynedd wedyn gyda’r cerdyn i fynd i’r gwahanol gystadlaethau, felly mae’r ddwy flynedd gynta’n creu rhyw fath o sylfaen,” meddai.
“Ond yn amlwg, roedd Gerwyn yn ennill lot o arian yn ystod y ddwy flynedd gynta’ ’na ac roedd e’n cael y cyfleon yma wedyn i chwarae yn y cystadlaethau ar y teledu a gyda hynny, mae lot mwy o arian yn dod gyda’r cystadlaethau achos bod mwy o statws.
“Ti’n gweithio dy ffordd lan wedyn o ran y rhestr ddetholion.
“O’t ti’n gweld gyda phob blwyddyn oedd e’n gwella, roedd e’n cryfhau a ni wedi gweld yn y flwyddyn ddiwetha’, yn amlwg, fod e wedi ennill wyth o bencampwriaethau.
“Ro’n i’n edrych ar y stats cyn Pencampwriaeth y Byd, a dros y 25 mlynedd diwetha’, dim ond pedwar chwaraewr sy’n gallu dweud taw nhw sydd wedi ennill y mwya’ o deitlau o fewn un flwyddyn – [Phil] Taylor, [Michael] van Gerwen, [Raymond van] Barneveld yw’r trydydd a wedyn Gerwyn fydd y pedwerydd yn 2020.
“Mae e’n ymuno â chlwb ecsgliwsif iawn, iawn wrth ennill y mwya’ o deitlau mewn un flwyddyn.”
… ond heb fod ar ei orau eleni
Er gwaetha’r cyfle mawr sydd gan Gerwyn Price heno, fe fyddai’n dod yn bencampwr byd ar ddiwedd blwyddyn lle nad yw e wedi bod ar ei orau, yn ôl Dylan Williams, sy’n dweud ei fod e ymhlith y tri ffefryn i ddod yn bencampwr byd ar ddechrau’r gystadleuaeth – ochr yn ochr â Michael van Gerwen a Peter Wright.
“Mae’r draw wedi agor lan, rili, ac mae Gerwyn heb chwarae unrhyw le yn agos i’w orau, ond mae e wedi cyrraedd y ffeinal ac un gêm yw hi nawr so mae’n dibynnu pa fath o Gary Anderson fydd yn troi lan heno,” meddai.
“Ond fi’n weddol ffyddiog os wneith Gerwyn chwarae rywle’n agos i’w orau, bydd e’n ddigon i ddod i ben â Gary, bydden i’n dweud.
“Un o gryfderau Gerwyn yw ei gêm sgorio fe, mae’n sgorio’n drwm yn bwrw lot o 180s, 140s ac fel arfer, mae e fel magned ar y trebl 19 ond mae’r sgorio ddim wedi bod ’na eleni.
“I feddwl, wrth fynd mewn i’r gêm neithiwr oedd e heb fwrw average o 100 cyn neithiwr, o’dd hwnna’n rywbeth o’n i’n ffaelu coelio achos mae Gerwyn yn mynd o un twrnament i’r llall yn bwrw average o 100 heb rili feddwl am y peth.
“Mae e wedi cyrraedd y rownd derfynol ’ma heb chwarae fel y’f fi’n gweld e’n chwarae ar y penwythnosau dros y tymor.”
Ers y cyfnod clo, bu’n rhaid i fyd y campau ymgyfarwyddo â gemau a gornestau heb dorfeydd ond fydd hynny ddim yn poeni Gerwyn Price heno, meddai.
“Tase’r gêm yma wedi cymryd lle nôl ym mis Mehefin, bydden i wedi dweud ie, falle fydde fe, achos mae e’n un sydd angen torf i gael ei hunan i fynd ac i ddod ma’s â’r gorau ynddo fe.
“Ond nawr bo ni naw neu ddeg mis lawr y lein gyda’r bois yn gyfarwydd â chwarae heb dorfeydd a’r sŵn ffug ’ma yn cael ei bwmpio mewn i’r neuadd, sai’n gweld e’n gwneud cymaint o wahaniaeth.
“Dyma’r gêm fwya’ yn ei yrfa fe, a bydda i’n disgwyl ei fod e wedi paratoi i’r eithaf ac os wnaiff Gerwyn droi lan fel y’f fi’n gwybod fod e’n gallu chwarae, un canlyniad sydd.”
Pwysigrwydd i’r gamp yng Nghymru
Byddai dod yn bencampwr byd yn dipyn o gamp bersonol i Gerwyn Price ond mae Dylan Williams yn dweud bod llawer mwy na’r un fuddugoliaeth bosib hon i’r byd dartiau yng Nghymru.
“Ry’n ni ond yn scratching the surface,” meddai.
“Mae ’na boom wedi bod dros y ddwy flynedd ddiwetha’.
“Mae Jonny [Clayton] a Gerwyn wedi codi statws y gêm, ond mae gyda ni shwd gymaint o ieuenctid yn dod trwyddo nawr.
“Mae gyda ni Nick Kenny, welon ni ym Mhencampwriaeth y Byd wnaeth ennill ei gerdyn nôl ym mis Ionawr, felly mae e wedi cael blwyddyn dda iawn i ddechrau ar y gylchdaith.
“Mae gyda ni sawl un arall wedyn sydd jyst yn meddwl dod draw i’r PDC, bois fel Louis Williams o Abertawe sy’n chwaraewr da iawn, Justin Smith o Aberteifi a wedyn mae gyda ti’r bois fel Jim Williams, Wayne Warren, Jamie Lewis, Barry Bates, maen nhw i gyd yna ar y cyrion.
“Fi jyst yn meddwl bo ni ond yn scratching the surface, a gallwn ni ddisgwyl lot, lot mwy dros y blynyddoedd nesa’.”