Mae adroddiadau bod Ched Evans, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Cymru, am ymuno â Preston.

Mae’r Cymro wedi cael gwybod y gall adael Fleetwood yn dilyn ffrae â’r rheolwr Joey Barton ac am resymau’n ymwneud â disgyblaeth.

Mae lle i gredu bod Barton yn barod i’w ryddhau unwaith y bydd yn gallu dod o hyd i glwb newydd, ac mae Sunderland ac Ipswich ymhlith y timau sy’n awyddus i’w ddenu atyn nhw, yn ôl adroddiadau.

Ond mae awgrym y bydd Fleetwood yn gofyn am ffi yn hytrach na’i ryddhau o’i gyflogaeth, a byddai chwarae eto i’w glwb yn ei wneud yn gymwys ar gyfer cytundeb newydd.

Yn ôl Joey Barton, fe fu “nifer” o ddigwyddiadau’n ymwneud â’i ymddygiad yn ddiweddar.

Cafwyd e’n euog o dreisio dynes mewn gwesty yn 2011 ond cafwyd e’n ddieuog mewn ail achos yn 2016.